Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Samuel 6

A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid. A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd. A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch. Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.

A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd. A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw. A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn. A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi? 10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad. 11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a’i holl dŷ.

12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd. 13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion. 14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain. 15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain utgorn. 16 Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr Arglwydd; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

17 A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd. 18 Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd. 19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.

20 Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg. 21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr Arglwydd, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd. 22 Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir. 23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.

1 Corinthiaid 16

16 Hefyd am y gasgl i’r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. Y dydd cyntaf o’r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi. A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem. Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi. Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.) Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf. Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada’r Arglwydd. Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn. Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. 10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau. 11 Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr. 12 Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas. 13 Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch. 14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad. 15 Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,) 16 Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio. 17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant; 18 Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. 19 Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych. 20 Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol. 21 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. 22 Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha. 23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi. 24 Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.

Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.

Eseciel 14

14 Yna y daeth ataf wŷr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o’m blaen. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Y gwŷr hyn, O fab dyn, a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau, ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi? Am hynny ymddiddan â hwynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pob un o dŷ Israel, yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y proffwyd; myfi yr Arglwydd a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod, I ddal tŷ Israel yn eu calonnau, am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod.

Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd‐dra. Canys pob un o dŷ Israel, ac o’r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, a ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef; myfi yr Arglwydd a atebaf iddo trwof fy hun. Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny: a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb, a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air, myfi yr Arglwydd a dwyllodd y proffwyd hwnnw; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac a’i difethaf o fysg fy mhobl Israel. 10 A hwy a ddygant eu hanwiredd: un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd: 11 Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl, ac na haloger hwy mwy â’u holl droseddau; ond bod ohonynt i mi yn bobl, a minnau iddynt hwy yn Dduw, medd yr Arglwydd Dduw.

12 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 13 Ha fab dyn, pan becho gwlad i’m herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail. 14 Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn, Noa, Daniel, a Job, hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad, a’i difa o hwnnw, fel y byddo yn anghyfannedd, heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil: 16 Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na meibion na merched; hwynt‐hwy yn unig a waredid, a’r tir a fyddai yn anghyfannedd.

17 Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwair, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail: 18 A’r triwyr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni achubent na meibion na merched, ond hwynt‐hwy yn unig a achubid.

19 Neu os haint a anfonaf i’r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail; 20 A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na mab na merch; hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig. 21 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?

22 Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a’u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais arni. 23 Ie, cysurant chwi, pan weloch eu ffordd a’u gweithredoedd: a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum i’w herbyn hi, medd yr Arglwydd Dduw.

Salmau 55

I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.

55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg. 16 Myfi a waeddaf ar Dduw; a’r Arglwydd a’m hachub i. 17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. 18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. 19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw. 20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. 21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. 22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. 23 Tithau, Dduw, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.