M’Cheyne Bible Reading Plan
31 A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. 2 A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. 3 A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion. 4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno. 5 A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef. 6 Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.
7 A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt. 8 A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa. 9 A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl. 10 A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.
11 A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul; 12 Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno. 13 A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.
11 Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist. 2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi. 3 Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw. 4 Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben. 5 Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio. 6 Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged. 7 Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a’r wraig yw gogoniant y gŵr. 8 Canys nid yw’r gŵr o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr. 9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr. 10 Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion. 11 Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd. 12 Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw. 13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth? 14 Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo? 15 Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi. 16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw. 17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu. 19 Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi. 20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn. 21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw. 22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol. 23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara: 24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 25 Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf. 26 Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo. 27 Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. 28 Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan. 29 Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd. 30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. 31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid. 32 Eithr pan y’n bernir, y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd. 33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd. 34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.
9 Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais, gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu, a phob un â’i arf dinistr yn ei law. 2 Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, a phob un â’i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres. 3 A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun: 4 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd‐dra oll a wneir yn ei chanol hi.
5 Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch. 6 Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a’r forwyn, y plant hefyd, a’r gwragedd; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo’r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y tŷ. 7 Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.
8 A bu, a hwy yn lladd, a’m gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem? 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr Arglwydd y ddaear, ac nid yw yr Arglwydd yn gweled. 10 Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau. 11 Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddywedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.
Cân a Salm i feibion Cora.
48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. 2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. 3 Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. 4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. 5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. 6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. 7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. 8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. 9 Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.