M’Cheyne Bible Reading Plan
29 Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec: a’r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel. 2 A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis. 3 Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn, neu y blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai ynddo ef, er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn? 4 A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho, Gwna i’r gŵr hwn ddychwelyd i’w le a osodaist iddo, ac na ddeled i waered gyda ni i’r rhyfel; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel: canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i’w feistr? onid â phennau y gwŷr hyn? 5 Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
6 Yna Achis a alwodd Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel mai byw yr Arglwydd, diau dy fod di yn uniawn, ac yn dda yn fy ngolwg i, pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll: canys ni chefais ynot ddrygioni, o’r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion. 7 Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.
8 A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o’r dydd y deuthum o’th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin? 9 Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i’r rhyfel. 10 Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith. 11 Felly Dafydd a gyfododd, efe a’i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A’r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel.
30 A phan ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân. 2 Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i’w ffordd.
3 Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a’u meibion, a’u merched, a gaethgludasid. 4 Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo. 5 Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad. 6 A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw. 7 A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd. 8 A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi. 9 Felly Dafydd a aeth, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl. 10 A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.
11 A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a’i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a’i diodasant ef â dwfr. 12 A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a’i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos. 13 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o’r Aifft ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a’m meistr a’m gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach. 14 Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a’r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân. 15 A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i Dduw, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af â thi i waered at y dorf hon.
16 Ac efe a’i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda. 17 A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant. 18 A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig. 19 Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na’r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref. 20 Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a’r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.
21 A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â’r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt. 22 Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a’i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant. 23 Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i’n herbyn, yn ein llaw ni. 24 Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda’r dodrefn: hwy a gydrannant. 25 Ac o’r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.
26 A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i’w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd; 27 Sef i’r rhai oedd yn Bethel, ac i’r rhai oedd yn Ramoth tua’r deau, ac i’r rhai oedd yn Jattir, 28 Ac i’r rhai oedd yn Aroer, ac i’r rhai oedd yn Siffmoth, ac i’r rhai oedd yn Estemoa, 29 Ac i’r rhai oedd yn Rachal, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid, 30 Ac i’r rhai oedd yn Horma, ac i’r rhai oedd yn Chorasan, ac i’r rhai oedd yn Athac, 31 Ac i’r rhai oedd yn Hebron, ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt.
10 Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr; 2 A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; 3 A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol; 4 Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist. 5 Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. 6 A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy. 7 Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. 8 Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. 9 Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff. 10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd. 11 A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. 12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. 14 Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth. 15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd. 16 Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw? 17 Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara. 18 Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw’r rhai sydd yn bwyta’r ebyrth, yn gyfranogion o’r allor? 19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim? 20 Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid. 21 Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid. 22 Ai gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef? 23 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall. 25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod: 26 Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 27 Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. 28 Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 29 Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30 Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano? 31 Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 32 Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: 33 Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.
8 A bu yn y chweched flwyddyn, yn y chweched mis, ar y pumed dydd o’r mis, a mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron, syrthio o law yr Arglwydd Dduw arnaf yno. 2 Yna yr edrychais, ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân; o welediad ei lwynau ac isod, yn dân; ac o’i lwynau ac uchod, fel gwelediad disgleirdeb, megis lliw ambr. 3 Ac efe a estynnodd lun llaw, ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen: a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd, ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau Duw, hyd ddrws y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd. 4 Ac wele yno ogoniant Duw Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd.
5 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd. Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd; ac wele, tua’r gogledd; wrth borth yr allor, ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd. 6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd‐dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma, i’m gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr? ac eto dychwel, cei weled ffieidd‐dra mwy.
7 Ac efe a’m dug i ddrws y cyntedd; a phan edrychais, wele dwll yn y pared. 8 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cloddia yn y pared: a phan gloddiais yn y pared, wele ddrws. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos i mewn, ac edrych y ffieidd‐dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma. 10 Felly mi a euthum, ac a edrychais; ac wele bob llun ymlusgiad, ac anifail ffiaidd, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch: 11 A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol, pob un â’i thuser yn ei law; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu. 12 Ac efe a ddywedodd wrthyf, a weli di, fab dyn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd? canys dywedant, Nid yw yr Arglwydd yn ein gweled; gadawodd yr Arglwydd y ddaear.
13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Tro eto, cei weled ffieidd‐dra mwy, y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur. 14 Ac efe a’m dug i ddrws porth tŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd tua’r gogledd; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus.
15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? dychwel eto, cei weled ffieidd‐dra mwy na hyn. 16 Ac efe a’m dug i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr Arglwydd, rhwng y porth a’r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a’u cefnau tuag at deml yr Arglwydd, a’u hwynebau tua’r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i’r haul tua’r dwyrain.
17 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? ai peth ysgafn gan dŷ Jwda wneuthur y ffieidd‐dra a wnânt yma? canys llanwasant y tir â thrais, a gwrthdroesant i’m cyffroi i; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn. 18 Minnau hefyd a wnaf mewn llid: nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf: ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau â llef uchel, ni wrandawaf hwynt.
I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.
46 Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. 2 Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: 3 Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela. 4 Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. 5 Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: Duw a’i cynorthwya yn fore iawn. 6 Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear. 7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela. 8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear. 9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. 10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. 11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob. Sela.
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
47 Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd. 2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear. 3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed. 4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela. 5 Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn. 6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch. 7 Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus. 8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd. 9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.