M’Cheyne Bible Reading Plan
27 A Dafydd a ddywedodd yn ei galon, Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul: nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi, ac na’m ceisio mwy yn holl derfynau Israel. Felly y dihangaf o’i law ef. 2 A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyodd, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, at Achis mab Maoch, brenin Gath. 3 A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath, efe a’i wŷr, pob un gyda’i deulu; Dafydd a’i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal, y Garmeles. 4 A mynegwyd i Saul, ffoi o Dafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.
5 A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o’r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi? 6 Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn. 7 A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.
8 A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a’r Gesriaid, a’r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft. 9 A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a’r gwartheg, a’r asynnod, a’r camelod, a’r gwisgoedd, ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis. 10 Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu deau y Ceneaid. 11 Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i’n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid. 12 Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.
8 Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu. 2 Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod. 3 Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef. 4 Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un. 5 Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,) 6 Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef. 7 Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir. 8 Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach. 9 Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid. 10 Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod; 11 Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw? 12 A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist. 13 Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.
6 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Mab dyn, gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel, a phroffwyda yn eu herbyn; 3 A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd. 4 Eich allorau hefyd a ddifwynir, a’ch haul‐ddelwau a ddryllir: a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod. 5 A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau. 6 Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a’r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul‐ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd. 7 Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
8 Eto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi trwy y gwledydd. 9 A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â’u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â’u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra. 10 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn.
11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Taro â’th law, a chur â’th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant. 12 Y pellennig a fydd farw o’r haint, a’r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a’r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt. 13 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i’w holl eilunod. 14 Felly yr estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith; ie, yn fwy anrheithiol na’r anialwch tua Diblath, trwy eu holl drigfeydd: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
I’r Pencerdd, i feibion Cora, Maschil.
44 Duw, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt. 2 Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau. 3 Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt. 4 Ti, Dduw, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob. 5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn. 6 Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub. 7 Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion. 8 Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela. 9 Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd. 10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun. 11 Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd. 12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt. 13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch. 14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd. 15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd: 16 Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr. 17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod. 18 Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di; 19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau. 20 Os anghofiasom enw ein Duw, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr: 21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. 22 Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd. 23 Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd. 24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder? 25 Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear. 26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.