M’Cheyne Bible Reading Plan
18 Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. 2 A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. 3 Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. 4 A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.
5 A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd. 6 A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau. 7 A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. 8 A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth? 9 A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan.
10 Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul. 11 A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef.
12 A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. 13 Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl. 14 A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r Arglwydd oedd gydag ef. 15 A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef. 16 Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt.
17 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.) 18 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin? 19 Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig. 20 A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo. 21 A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.
22 A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin. 23 A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael? 24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd. 25 A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid. 26 A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto. 27 Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.
28 A Saul a welodd ac a wybu fod yr Arglwydd gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. 29 A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth. 30 Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.
16 Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea: 2 Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. 3 Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu; 4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd. 5 Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist. 6 Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni. 7 Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i. 8 Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9 Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus. 11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. 13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. 16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch. 17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt. 18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg. 19 Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg. 20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. 21 Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch. 22 Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd. 23 Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus. 24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen. 25 I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd; 26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd‐dod ffydd:) 27 I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
3 Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. 2 I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. 3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. 4 Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. 5 Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. 6 Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. 7 Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. 8 Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. 9 Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. 10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. 11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. 12 Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. 13 Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. 14 Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. 15 Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. 16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. 17 A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. 18 A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd. 19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd. 27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. 28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. 29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. 30 Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. 31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd: 32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. 33 Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. 34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed, 35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf, 36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.
37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i’r Arglwydd ei orchymyn? 38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da? 39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod? 40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd. 41 Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd. 42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. 43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. 44 Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. 45 Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. 46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. 47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. 48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. 49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; 50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd. 51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. 52 Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. 53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. 54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.
55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. 59 Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. 60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. 61 Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a’u holl fwriadau i’m herbyn; 62 Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. 63 Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.
64 Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo. 65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. 66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.
Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
34 Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. 2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. 3 Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef. 4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. 5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. 6 Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. 7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. 8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo. 9 Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. 10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. 11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd. 12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? 13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. 14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi. 15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt. 16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear. 17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r Arglwydd a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd. 19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll. 20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. 21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. 22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.