M’Cheyne Bible Reading Plan
17 Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim. 2 Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid. 3 A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.
4 A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant. 5 A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres. 6 A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau. 7 A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef. 8 Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi. 9 Os gall efe ymladd â mi, a’m lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a’i gorchfygaf ef, ac a’i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni. 10 A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd. 11 Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.
12 A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a’i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a’r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr. 13 A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd. 14 A Dafydd oedd ieuangaf: a’r tri hynaf a aeth ar ôl Saul. 15 Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem. 16 A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod. 17 A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr. 18 Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt. 19 Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ymladd â’r Philistiaid.
20 A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gad, ac yn bloeddio i’r frwydr. 21 Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin. 22 A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i’r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i’w frodyr. 23 A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd. 24 A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr. 25 A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a’r gŵr a’i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel. 26 A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw? 27 A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef.
28 Ac Eliab, ei frawd hynaf, a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered. 29 A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos?
30 Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen. 31 A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.
32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn. 33 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd. 34 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd. 35 A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a’i trewais ef, ac a’i hachubais o’i safn ef: a phan gyfododd efe i’m herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a’i trewais, ac a’i lleddais ef. 36 Felly dy was di a laddodd y llew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw. 37 Dywedodd Dafydd hefyd, Yr Arglwydd, yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a’r Arglwydd fyddo gyda thi.
38 A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a’i gwisgodd ef mewn llurig. 39 A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano. 40 Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad. 41 A’r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef. 42 A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a’i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg. 43 A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef. 44 Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes. 45 Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. 46 Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel. 47 A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni. 48 A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad. 49 A Dafydd a estynnodd ei law i’r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb. 50 Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd. 51 Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant. 52 A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a floeddiasant; ac a erlidiasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i’r dyffryn, a hyd byrth Ecron. A’r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron. 53 A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt. 54 A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad, ac a’i dug i Jerwsalem; a’i arfau ef a osododd efe yn ei babell.
55 A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i. 56 A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn. 57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law. 58 A Saul a ddywedodd wrtho ef, Mab i bwy wyt ti, y gŵr ieuanc? A dywedodd Dafydd, Mab i’th was Jesse y Bethlehemiad.
15 A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. 2 Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. 3 Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. 4 Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. 5 A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu: 6 Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. 7 Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. 8 Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau: 9 Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 10 A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl ef. 11 A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd. 12 A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd. 13 A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân. 14 Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd. 15 Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw; 16 Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. 17 Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw. 18 Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, 19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. 20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall: 21 Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant. 22 Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi. 23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi; 24 Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch. 25 Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r saint. 26 Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem. 27 Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. 28 Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen. 29 Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist. 30 Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw; 31 Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint; 32 Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y’m cydlonner gyda chwi. 33 A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
2 Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint! 2 Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a’u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion. 3 Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch. 4 Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint. 5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda. 6 Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a’r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a’r offeiriad. 7 Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd uchel ŵyl. 8 Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru; cydlesgasant. 9 Ei phyrth a soddasant i’r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a’i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a’i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd. 10 Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â sôn; gosodasant lwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr. 11 Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear; oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a’r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas. 12 Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau. 13 Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y’th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a’th iachâ di? 14 Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol. 15 Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear? 16 Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a’i cawsom, ni a’i gwelsom. 17 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di. 18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad. 19 Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.
20 Edrych, Arglwydd, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd? 21 Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed. 22 Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.
33 Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl. 2 Molwch yr Arglwydd â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant. 3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus. 4 Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb. 5 Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn. 6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef. 7 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau. 8 Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef. 9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd. 10 Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd. 11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth. 12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. 13 Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. 14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. 15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. 16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. 17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. 18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; 19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. 20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian. 21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. 22 Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.