M’Cheyne Bible Reading Plan
15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Yr Arglwydd a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd. 2 Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny o’r Aifft. 3 Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. 4 A Saul a gynullodd y bobl, ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda. 5 A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn.
6 Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o’r Aifft. A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid. 7 A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aifft. 8 Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf. 9 Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r gorau o’r defaid, a’r ychen, a’r brasaf o’r ŵyn, a’r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.
10 Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel, gan ddywedyd, 11 Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos. 12 A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. 13 A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd: mi a gyflewnais air yr Arglwydd. 14 A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? 15 A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw; a’r rhan arall a ddifrodasom ni. 16 Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. 17 A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel? 18 A’r Arglwydd a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt. 19 Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr Arglwydd iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. 21 Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal. 22 A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr Arglwydd ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr Arglwydd? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. 23 Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr Arglwydd, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.
24 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr Arglwydd, a’th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt. 25 Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd. 26 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr Arglwydd, a’r Arglwydd a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel. 27 A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd. 28 A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a’i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi. 29 A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: canys nid dyn yw efe, i edifarhau. 30 Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw. 31 Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr Arglwydd.
32 Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith. 33 A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal.
34 Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i’w dŷ yn Gibea Saul. 35 Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr Arglwydd osod Saul yn frenin ar Israel.
13 Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. 2 Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. 3 Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo: 4 Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. 5 Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. 6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. 7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus. 8 Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. 9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. 10 Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad. 11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. 13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
52 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim. 3 Oherwydd gan ddigofaint yr Arglwydd y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.
4 Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch. 5 Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. 6 Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o’r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad. 7 Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.
8 Ond llu y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho. 9 Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribla yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef. 10 A brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla. 11 Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef â chadwyni: a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth.
12 Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem; 13 Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân. 14 A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch. 15 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael, a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a’r gweddill o’r bobl. 16 Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr. 17 A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon. 18 A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a’r rhawiau, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r thuserau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt. 19 A’r ffiolau, a’r pedyll tân, a’r cawgiau, a’r crochanau, a’r canwyllbrennau, a’r thuserau, a’r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith. 20 Y ddwy golofn, un môr, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion, y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn. 21 Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a’i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau yr oedd. 22 A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau. 23 A’r pomgranadau oeddynt, onid pedwar, cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.
24 A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws. 25 Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas. 26 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon. 27 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun. 28 Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon. 29 Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion. 30 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.
31 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o’r mis, Efil‐merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a’i dug ef allan o’r carchardy; 32 Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon. 33 Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes. 34 Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
31 Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. 2 Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. 3 Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. 4 Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth. 5 I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd. 6 Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd. 7 Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; 8 Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder. 9 Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd. 17 Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd. 18 Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn. 19 Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion! 20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau. 21 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn. 22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat. 23 Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder. 24 Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.