Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 14

14 A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad. A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr; Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr Arglwydd yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.

A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene. A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea. A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni: canys nid oes rwystr i’r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig. A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon. Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt. Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy. 10 Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni. 11 A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt. 12 A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr Arglwydd a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel. 13 A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef. 14 A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir. 15 A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn Duw. 16 A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro. 17 Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno. 18 A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Duw y pryd hynny gyda meibion Israel.)

19 A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law. 20 A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno. 21 Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. 22 A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel. 23 Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.

24 A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion: Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd. 25 A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir. 26 A phan ddaeth y bobl i’r coed, wele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw. 27 Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a’i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a’i lygaid a oleuasant. 28 Yna un o’r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A’r bobl oedd luddedig. 29 Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oherwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn: 30 Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid? 31 A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a’r bobl oedd ddiffygiol iawn. 32 A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a’u lladdasant ar y ddaear: a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed.

33 Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr Arglwydd, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr. 34 Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr Arglwydd, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a’u lladdasant yno. 35 A Saul a adeiladodd allor i’r Arglwydd. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r Arglwydd.

36 A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at Dduw. 37 Ac ymofynnodd Saul â Duw, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw. 38 A dywedodd Saul, Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw. 39 Canys, megis mai byw yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef. 40 Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg. 41 Am hynny y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: ond y bobl a ddihangodd. 42 Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan. 43 Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw? 44 Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled Duw i mi, ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan. 45 A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato Duw: fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw. A’r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef. 46 Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun.

47 Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a orchfygodd. 48 Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr. 49 A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malci-sua. Dyma enwau ei ddwy ferch ef: enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal. 50 Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul. 51 Cis hefyd oedd dad Saul; a Ner tad Abner oedd fab Abiel. 52 A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul ŵr glew a nerthol, efe a’i cymerai ato ei hun.

Rhufeiniaid 12

12 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd. Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. 10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: 11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: 12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: 13 Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. 14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. 15 Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. 16 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. 19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. 21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

Jeremeia 51

51 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i; A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a’i nithiant hi, ac a wacânt ei thir hi; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder. Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi. Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi. Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei Dduw, gan Arglwydd y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel. Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei hun: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r Arglwydd; efe a dâl y pwyth iddi hi. Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arglwydd, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant. Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagl i’w dolur hi, i edrych a iachâ hi. Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i’w wlad: canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau. 10 Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw. 11 Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr Arglwydd yw hyn, dial ei deml ef. 12 Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon. 13 Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd‐dod. 14 Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y’th lanwaf â dynion megis â lindys; a hwy a ganant floddest i’th erbyn. 15 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall. 16 Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau. 17 Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt. 18 Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt. 19 Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef. 20 Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd; 21 A thi hefyd y gwasgaraf y march a’r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog; 22 A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn; 23 A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen; ac â thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid. 24 A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr Arglwydd. 25 Wele fi i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr Arglwydd; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg. 26 Ac ni chymerant ohonot faen congl, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr Arglwydd. 27 Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â’r lindys blewog. 28 Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a’i thywysogion, a’i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef. 29 Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi. 30 Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a’i barrau a dorrwyd. 31 Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr, 32 Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr. 33 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi. 34 Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd, ac a’m hysigodd i; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag; efe a’m llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o’m danteithion; efe a’m bwriodd i allan. 35 Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a’m gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem. 36 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadl di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi. 37 A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb breswylydd. 38 Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod. 39 Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a’u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr Arglwydd. 40 Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa, fel hyrddod a bychod. 41 Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd! 42 Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef. 43 Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi. 44 A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth. 45 Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr Arglwydd, 46 A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. 47 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol. 48 Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr Arglwydd. 49 Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear. 50 Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr Arglwydd o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi. 51 Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd. 52 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf fi â’i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan. 53 Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd. 54 Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid. 55 Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt. 56 Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr. 57 A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. 58 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.

59 Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd. 60 Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon. 61 A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn; 62 Yna dywed, O Arglwydd, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol. 63 A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates: 64 A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi arni: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.

Salmau 30

Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.

30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.