M’Cheyne Bible Reading Plan
10 Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? 2 Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab? 3 Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win. 4 A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt. 5 Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. 6 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall. 7 A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi. 8 A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.
9 A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben. 10 A phan ddaethant yno i’r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt. 11 A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi? 12 Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi? 13 Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i’r uchelfa.
14 Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio’r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel. 15 Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi. 16 A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.
17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa; 18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi. 19 A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. 20 A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin. 21 Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef. 22 Am hynny y gofynasant eto i’r Arglwydd, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn. 23 A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl. 24 A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin. 25 Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr Arglwydd. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ.
26 A Saul hefyd a aeth i’w dŷ ei hun i Gibea; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw â’u calon, a aeth gydag ef. 27 Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.
8 Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 2 Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. 3 Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: 4 Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 5 Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. 6 Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: 7 Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. 8 A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. 9 Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10 Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 11 Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. 12 Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. 13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. 14 Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 15 Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. 16 Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 17 Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. 18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. 19 Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. 20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: 21 Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. 22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer. 30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. 31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
47 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant. 3 Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo: 4 O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor. 5 Moelni a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di? 6 O cleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw. 7 Pa fodd y llonydda efe, gan i’r Arglwydd ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
Salm Dafydd.
24 Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. 2 Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. 3 Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? 4 Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. 5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. 6 Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. 7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. 9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.