Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 5-6

Ar Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod. A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.

A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef. Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn. A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion. A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw. Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno. Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd. 10 Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl. 11 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno. 12 A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.

A bu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd. A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref. Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi. Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi. Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir. A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith? Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ: A chymerwch arch yr Arglwydd, a rhoddwch hi ar y fen; a’r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith. Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.

10 A’r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a’u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ: 11 Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a’r gist â’r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt. 12 A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes. 13 A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled. 14 A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 15 A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd, a’r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a’u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i’r Arglwydd y dydd hwnnw. 16 A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw. 17 A dyma’r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r Arglwydd; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un: 18 A’r llygod aur, yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid, yn perthynu i’r pum arglwydd, yn gystal y dinasoedd caerog, a’r trefi heb gaerau, hyd y maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad.

19 Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd, ie, trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A’r bobl a alarasant, am i’r Arglwydd daro’r bobl â lladdfa fawr. 20 A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni?

21 A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.

Rhufeiniaid 5

Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. 10 Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef. 11 Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod. 12 Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: 13 Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. 14 Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod. 15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd. 16 Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad. 17 Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. 18 Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. 19 Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn. 20 Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras: 21 Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Jeremeia 43

43 A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn: Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno. Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon. Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda: Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda; Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia. Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tapanhes.

A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd, Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda; 10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt. 11 A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf. 12 A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a’u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch. 13 Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.

Salmau 19

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.