Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 1

Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r Arglwydd yno.

Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau. Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi; A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r Arglwydd gau ei bru hi. Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi. Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?

Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd.) 10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd. 11 Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef. 12 A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd, i Eli ddal sylw ar ei genau hi. 13 A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw. 14 Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt. 15 A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd. 16 Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn. 17 Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef. 18 A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.

19 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr Arglwydd; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r Arglwydd a’i cofiodd hi. 20 A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi. 21 A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r Arglwydd yr aberth blynyddol, a’i adduned. 22 Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth. 23 Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.

24 A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc. 25 A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli. 26 A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr Arglwydd. 27 Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo: 28 Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.

Rhufeiniaid 1

Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw, (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw: Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist: At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, 10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. 11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: 12 A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. 13 Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. 14 Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. 15 Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. 16 Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. 17 Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. 20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: 21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 24 O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: 25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen. 26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian: 27 Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. 28 Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: 29 Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; 30 Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, 31 Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion: 32 Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.

Jeremeia 39

39 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas. A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sef Nergal‐sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal‐sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.

A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch. A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasant ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno. Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda. Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef â chadwynau i’w ddwyn i Babilon.

A’r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid. 10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.

11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd, 12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo. 13 Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal‐sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; 14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd, 16 Dos, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw. 17 Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt. 18 Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr Arglwydd.

Salmau 13-14

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.