M’Cheyne Bible Reading Plan
21 A Gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig. 2 A daeth y bobl i dŷ Dduw, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant ag wylofain mawr: 3 Ac a ddywedasant, O Arglwydd Dduw Israel, paham y bu y peth hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel? 4 A thrannoeth y bobl a foregodasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd. 5 A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr Arglwydd? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr Arglwydd i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau. 6 A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd: a dywedasant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel: 7 Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i’r Arglwydd, na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd?
8 Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll, at y gynulleidfa. 9 Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead. 10 A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant. 11 Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr. 12 A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan. 13 A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt. 14 A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly. 15 A’r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i’r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.
16 Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin? 17 Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel. 18 Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin. 19 Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i’r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i’r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus. 20 Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd: 21 Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin. 22 A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog. 23 A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o’r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i’w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt. 24 A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi yno bob un i’w etifeddiaeth. 25 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.
25 Ffestus gan hynny, wedi dyfod i’r dalaith, ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea. 2 Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef, 3 Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd. 4 A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder. 5 Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef. 6 A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato. 7 Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o’i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi. 8 Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar. 9 Eithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i’r Iddewon, a atebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem, i’th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn? 10 A Phaul a ddywedodd, O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu: ni wneuthum i ddim cam â’r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda. 11 Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o’r pethau y mae’r rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Gesar. 12 Yna Ffestus, wedi ymddiddan â’r cyngor, a atebodd, A apeliaist ti at Gesar? at Gesar y cei di fyned. 13 Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus. 14 Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i’r brenin hanes Paul, gan ddywedyd, Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar: 15 Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Jerwsalem, yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef. 16 I’r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i’w ddifetha, nes cael o’r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i’w amddiffyn ei hun rhag y cwyn. 17 Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron. 18 Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied: 19 Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw. 20 A myfi, yn anhysbys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnai efe fyned i Jerwsalem, a’i farnu yno am y pethau hyn. 21 Eithr gwedi i Paul apelio i’w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar. 22 Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus, Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn. Yntau a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef yfory. 23 Trannoeth gan hynny, wedi dyfod Agripa a Bernice, â rhwysg fawr, a myned i mewn i’r orsedd, â’r pen‐capteiniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron. 24 A Ffestus a ddywedodd, O frenin Agripa, a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn, oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi, yn Jerwsalem ac yma, gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy. 25 Eithr pan ddeellais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau, ac yntau ei hun wedi apelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef. 26 Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i’w ysgrifennu at fy arglwydd. Oherwydd paham mi a’i dygais ef ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O frenin Agripa; fel, wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i’w ysgrifennu. 27 Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb hysbysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef.
35 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd, 2 Dos di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed. 3 Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a’i frodyr, a’i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid; 4 A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i Dduw, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws. 5 A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win. 6 Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na’ch plant, yn dragywydd: 7 Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid. 8 A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a’n merched; 9 Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had: 10 Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni. 11 Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.
12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 13 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dos, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr Arglwydd. 14 Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf. 15 Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf. 16 Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi: 17 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant.
18 A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi: 19 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.
Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r Arglwydd oblegid geiriau Cus mab Jemini.
7 Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi. 2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd. 3 O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo; 4 O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;) 5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela. 6 Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist. 7 Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder. 8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof. 9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau. 10 Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon. 11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol. 12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd. 13 Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr. 14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd. 15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth. 16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun. 17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.