Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Barnwyr 8

A gwŷr Effraim a ddywedasant wrtho ef, Paham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a’i dwrdiasant ef yn dost. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim, na chasgliad grawnwin Abieser? Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Seeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef, pan lefarodd efe y gair hwn.

A daeth Gedeon i’r Iorddonen; ac a aeth drosti hi, efe a’r tri channwr oedd gydag ef, yn ddiffygiol, ac eto yn eu herlid hwy. Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.

A dywedodd tywysogion Succoth, A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i’th lu di? A dywedodd Gedeon, Oherwydd hynny, pan roddo yr Arglwydd Seba a Salmunna yn fy llaw i, yna y drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch, ac â mieri. Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd. A gwŷr Penuel a’i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Succoth. Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y tŵr yma.

10 A Seba a Salmunna oedd yn Carcor, a’u lluoedd gyda hwynt, ynghylch pymtheng mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf. 11 A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o’r tu dwyrain i Noba a Jogbeha: ac efe a drawodd y fyddin: canys y fyddin oedd ysgafala. 12 A Seba a Salmunna a ffoesant: ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt; ac a ddaliodd ddau frenin Midian, Seba a Salmunna, ac a darfodd yr holl lu.

13 A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o’r rhyfel cyn codi yr haul. 14 Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth, a’r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain. 15 Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, Wele Seba a Salmunna, trwy y rhai y danodasoch i mi, gan ddywedyd, A ydyw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem fara i’th wŷr lluddedig? 16 Ac efe a gymerth henuriaid y ddinas, a drain yr anialwch, a mieri, ac a ddysgodd wŷr Succoth â hwynt. 17 Tŵr Penuel hefyd a ddinistriodd efe, ac a laddodd wŷr y ddinas.

18 Yna efe a ddywedodd wrth Seba a Salmunna, Pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor? A hwy a ddywedasant, Tebyg i ti, pob un o ddull meibion brenin. 19 Ac efe a ddywedodd, Fy mrodyr, meibion fy mam, oeddynt hwy: fel mai byw yr Arglwydd, pe gadawsech hwynt yn fyw, ni laddwn chwi. 20 Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf‐anedig, Cyfod, lladd hwynt. Ond ni thynnai y llanc ei gleddyf: oherwydd efe a ofnodd, canys bachgen oedd efe eto. 21 Yna y dywedodd Seba a Salmunna, Cyfod di, a rhuthra i ni: canys fel y byddo y gŵr, felly y bydd ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Seba a Salmunna, ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt.

22 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, Arglwyddiaetha arnom ni, tydi, a’th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian. 23 A Gedeon a ddywedodd wrthynt, Ni arglwyddiaethaf fi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, eithr yr Arglwydd a arglwyddiaetha arnoch. 24 Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, Gofynnaf ddymuniad gennych, ar roddi o bob un ohonoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth: canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy, oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy. 25 A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn hwynt. A lledasant ryw wisg, a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaeth. 26 A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant o siclau aur; heblaw y colerau, a’r arogl‐bellennau, a’r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt. 27 A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun, Offra: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i’w dŷ.

28 Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon.

29 A Jerwbbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun. 30 Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thrigain, a ddaethai o’i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef. 31 A’i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichem, a ymddûg hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.

32 Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid. 33 A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a buteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt. 34 Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch; 35 Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.

Actau 12

12 Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 10 Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. 11 A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon. 12 Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. 13 Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a’i henw Rhode. 14 A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. 15 Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 16 A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. 17 Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. 18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. 19 Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.

20 Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 21 Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 22 A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 23 Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24 A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.

Jeremeia 21

21 Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd, Ymofyn, atolwg, â’r Arglwydd drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.

Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia; Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon. A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac â braich gref, mewn soriant, a llid, a digofaint mawr. Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr. Ac wedi hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.

Ac wrth y bobl hyn y dywedi, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau. Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo. 10 Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr Arglwydd: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi â thân.

11 Ac am dŷ brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd. 12 O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd. 13 Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr Arglwydd; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau? 14 Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.

Marc 7

Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem. A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant. Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau. Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi? Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf. Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchmynion dynion. Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth. 11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd. 12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam; 13 Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur.

14 A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch. 15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn. 16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 17 A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg. 18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef? 19 Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu’r holl fwydydd? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn. 21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth, 22 Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: 23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

24 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig. 25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef: 26 (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. 27 A’r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cŵn. 28 Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant. 29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o’th ferch. 30 Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely. 31 Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis. 32 A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef. 33 Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef; 34 A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor. 35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur. 36 Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. 37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed, ac i’r mudion ddywedyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.