Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Barnwyr 4

A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, wedi marw Ehwd. A’r Arglwydd a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd. A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.

A Debora y broffwydes, gwraig Lapidoth, hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw. Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn. A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes‐Nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon? A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a’i gerbydau, a’i liaws; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di. A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af. A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.

10 A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef. 11 A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes. 12 A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor. 13 A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison. 14 A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisera yn dy law di: onid aeth yr Arglwydd allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl. 15 A’r Arglwydd a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed. 16 Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt. 17 Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.

18 A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gorchuddiodd. 20 Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes. 21 Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw. 22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais. 23 Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel. 24 A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

Actau 8

A Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion. A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu, ac a wnaethant alar mawr amdano ef. Eithr Saul oedd yn anrheithio’r eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, efe a’u rhoddes yng ngharchar. A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair. Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt. A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno. Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon, oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr: 10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o’r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. 11 Ac yr oeddynt â’u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion. 12 Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd. 13 A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid.

14 A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan: 15 Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân. 16 (Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.) 17 Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân. 18 A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian, 19 Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân. 20 Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian. 21 Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw. 22 Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon. 23 Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. 24 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch. 25 Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid.

26 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua’r deau, i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd. 27 Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli; 28 Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen y proffwyd Eseias. 29 A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. 30 A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? 31 Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. 32 A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: 33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear. 34 A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano’i hun, ai am ryw un arall? 35 A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu. 36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr. A’r eunuch a ddywedodd, Wele ddwfr; beth sydd yn lluddias fy medyddio? 37 A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â’th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw. 38 Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr, Philip a’r eunuch; ac efe a’i bedyddiodd ef. 39 A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen. 40 Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea.

Jeremeia 17

17 Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau; Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel. O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau. Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd. Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol. Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo. Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.

Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn? 10 Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon, yn profi ’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd. 11 Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.

12 Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni. 13 O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw. 14 Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.

15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach. 16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. 17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. 18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.

19 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem; 20 A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn: 21 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem; 22 Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau. 23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg. 24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno: 25 Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth. 26 Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd‐offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd. 27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerwsalem, ac nis diffoddir.

Marc 3

Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. 10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. 11 A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.

13 Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. 14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. 16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr; 17 Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;) 18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, 19 A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20 A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara. 21 A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll.

22 A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. 23 Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll. 25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. 26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. 28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: 29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd: 30 Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.

31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef. 32 A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. 33 Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? 34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. 35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.