M’Cheyne Bible Reading Plan
3 Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan; 2 Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen;) 3 Pum tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal‐hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath. 4 A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd, y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses.
5 A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid: 6 Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt. 7 Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni.
8 Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd. 9 A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef. 10 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim. 11 A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.
12 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd. 13 Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a drawodd Israel; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd. 14 Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddeunaw mlynedd. 15 Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab. 16 Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd, ac a’i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddeau. 17 Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab. Ac Eglon oedd ŵr tew iawn. 18 A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg. 19 Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenin. Dywedodd yntau, Gosteg. A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef. 20 Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa. 21 Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau, ac a’i brathodd hi yn ei boten ef: 22 A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a’r braster a ymgaeodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o’i boten; a’r dom a ddaeth allan. 23 Yna Ehwd a aeth allan trwy’r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a’u clodd. 24 Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloëdig, hwy a ddywedasant, Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf. 25 A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw. 26 Ac Ehwd a ddihangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau, ac a ddihangodd i Seirath. 27 A phan ddaeth, efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o’r mynydd, ac yntau o’u blaen hwynt. 28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.
29 A hwy a drawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb. 30 Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.
31 Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a drawodd o’r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen: yntau hefyd a waredodd Israel.
7 Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? 2 Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran; 3 Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti. 4 Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a’i symudodd ef i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon. 5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu, ac i’w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo. 6 A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a’i caethiwant ef, ac a’i drygant, bedwar can mlynedd. 7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn. 8 Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch. 9 A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem. 17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, 18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. 19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. 20 Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. 21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. 22 A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. 23 A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. 24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. 25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant. 26 A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? 28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? 29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. 30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. 31 A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, 32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. 33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. 34 Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. 35 Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth. 36 Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.
37 Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch. 38 Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni. 39 Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft, 40 Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo. 41 A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i’r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun. 42 Yna y trodd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu’r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel? 43 A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli: minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon. 44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. 45 Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; 46 Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. 47 Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. 48 Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, 49 Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? 50 Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51 Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. 52 Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: 53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.
54 A phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. 55 Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 56 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, 58 Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. 59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. 60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.
16 Gair yr Arglwydd a ddaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd, 2 Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn. 3 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon; 4 O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. 5 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi. 6 A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt. 7 Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam. 8 Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed. 9 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.
10 A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw? 11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith; 12 A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf; 13 Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.
14 Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft: 15 Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.
16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau. 17 Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid. 18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd; ie, â’u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth. 19 O Arglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. 20 A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau? 21 Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw.
2 Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ. 2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy. 3 A daethant ato, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. 4 A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys. 5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. 6 Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonnau, 7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau pechodau, ond Duw yn unig? 8 Ac yn ebrwydd, pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau? 9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia? 10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) 11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i’th dŷ. 12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn. 13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a’u dysgodd hwynt.
14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef. 15 A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a’i canlynasent ef. 16 A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 17 A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
18 A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio. 20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny. 21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg. 22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23 A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys. 24 A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon? 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef? 26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth: 28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.