Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Barnwyr 1

Ac wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt? A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef. A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef. A Jwda a aeth i fyny; a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr. A hwy a gawsant Adoni‐besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid. Ond Adoni‐besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed. Ac Adoni‐besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno. A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a’i henillasant hi, ac a’i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.

Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd. 10 A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai. 11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐seffer:) 12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer, ac a’i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo. 13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo. 14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? 15 A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

16 A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl. 17 A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma. 18 Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau. 19 A’r Arglwydd oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt. 20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac. 21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a’r Arglwydd oedd gyda hwynt. 23 A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus.) 24 A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi. 25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu. 26 A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.

27 Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno. 28 Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.

29 Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.

30 A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.

31 Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob: 32 Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.

33 A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes, na thrigolion Beth‐anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt.

34 A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn. 35 A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt. 36 A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod.

Actau 5

Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir, Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion. Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir? Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw. Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn. A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant. A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn. A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint. A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a’th ddygant dithau allan. 10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a’i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr. 11 A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn.

12 A thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon. 13 Eithr ni feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau. 14 A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:) 15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a’u gosod ar welyau a glythau, fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt. 16 A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.

17 A’r archoffeiriad a gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi’r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen, 18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin. 19 Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, 20 Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon. 21 A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i’r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron. 22 A’r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant, 23 Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn. 24 A phan glybu’r archoffeiriad, a blaenor y deml, a’r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn. 25 Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl. 26 Yna y blaenor, gyda’r swyddogion, a aeth, ac a’u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio; 27 Ac wedi eu dwyn, hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor: a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt, 28 Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.

29 A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion. 30 Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren. 31 Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau. 32 A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.

33 A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffromasant, ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt. 34 Eithr rhyw Pharisead a’i enw Gamaliel, doctor o’r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru’r apostolion allan dros ennyd fechan; 35 Ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn. 36 Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim. 37 Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau’r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd. 38 Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn, neu’r weithred hon, fe a ddiddymir; 39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw. 40 A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt, a’u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymaith.

41 A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef. 42 A beunydd yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.

Jeremeia 14

14 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth. Galara Jwda, a’i phyrth a lesgânt; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny. A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau. Oblegid agennu o’r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau. Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a’i gadawodd, am nad oedd gwellt. A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.

O Arglwydd, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn. Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith? Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, Arglwydd, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr Arglwydd hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau. 11 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni. 12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boeth‐offrwm a bwyd‐offrwm, ni byddaf bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difâf hwynt.

13 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma. 14 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proffwydo i chwi. 15 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny. 16 A’r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt‐hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.

17 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn. 18 Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant. 19 Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am heddwch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder. 20 Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di. 21 Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod â ni. 22 A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.

Mathew 28

28 Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi. Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.

Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant. 10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.

11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, 13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.

16 A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt. 17 A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant. 18 A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; 20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.