Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Josua 23

23 A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau. A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus: Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch. Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua’r gorllewin. A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych. Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy; Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt: Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn. Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn. 10 Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych. 11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw. 12 Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau: 13 Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi. 14 Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt. 15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi. 16 Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

Actau 3

Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed. A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml. Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ddeisyfodd gael elusen. A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt. Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd. A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i’r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw. A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw. 10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo. 11 Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon.

12 A phan welodd Pedr, efe a atebodd i’r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio? 13 Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a’i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd. 14 Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog; 15 A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion. 16 A’i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll. 17 Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd. 18 Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd; 20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi: 21 Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed. 22 Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych. 23 A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl. 24 A’r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o’r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. 25 Chwychwi ydych blant y proffwydi, a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear. 26 Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.

Jeremeia 12

12 Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll? Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau. Ond ti, Arglwydd, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa. Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddywedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.

O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen? Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.

Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion. Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi. Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa. 10 Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol. 11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon. 12 Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd. 13 Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr Arglwydd.

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt. 15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w etifeddiaeth, a phob un i’w dir. 16 Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr Arglwydd, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl. 17 Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr Arglwydd.

Mathew 26

26 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.

14 Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. 16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.

17 Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg? 18 Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae’r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 19 A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg. 20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 21 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. 22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24 Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. 25 A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

26 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 27 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: 28 Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. 29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. 30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. 32 Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 33 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. 34 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. 35 Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.

36 Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. 37 Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. 38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. 39 Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. 40 Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? 41 Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. 42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. 43 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. 44 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. 45 Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. 46 Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47 Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. 48 A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. 49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. 50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. 51 Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. 52 Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. 53 A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? 54 Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod? 55 Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch. 56 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.

57 A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. 58 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda’r gweision, i weled y diwedd. 59 A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; 60 Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, 61 Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. 62 A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 63 Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw. 64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef. 65 Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. 66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth. 67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef â gwiail, 68 Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd?

69 A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. 70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 71 A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. 72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. 73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. 74 Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. 75 A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.