Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Josua 20-21

20 A Llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses: Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed. A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt. Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen. Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.

Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer‐Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda. Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse. Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.

21 Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel; Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchmynnodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’n hanifeiliaid. A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol. A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o’r Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren. Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren. Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren. I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd. A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.

A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau; 10 Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf. 11 A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd‐dir Jwda, a’i meysydd pentrefol oddi amgylch. 12 Ond maes y ddinas, a’i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.

13 Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meysydd pentrefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libna a’i meysydd pentrefol, 14 A Jattir a’i meysydd pentrefol, ac Estemoa a’i meysydd pentrefol, 15 A Holon a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol, 16 Ac Ain a’i meysydd pentrefol, a Jwtta a’i meysydd pentrefol, a Beth‐semes a’i meysydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny. 17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meysydd pentrefol, a Geba a’i meysydd pentrefol, 18 Anathoth a’i meysydd pentrefol, ac Almon a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 19 Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

20 A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim. 21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a’i meysydd pentrefol, 22 A Cibsaim a’i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd. 23 Ac o lwyth Dan, Eltece a’i meysydd pentrefol, Gibbethon a’i meysydd pentrefol. 24 Ajalon a’i meysydd pentrefol, Gath‐Rimmon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd. 25 Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a’i meysydd pentrefol, a Gath‐Rimmon a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas. 26 Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meysydd pentrefol.

27 Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, a Beestera a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas. 28 Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meysydd pentrefol, Dabareth a’i meysydd pentrefol, 29 Jarmuth a’i meysydd pentrefol, En‐gannim a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 30 Ac o lwyth Aser, Misal a’i meysydd pentrefol, Abdon a’i meysydd pentrefol, 31 Helcath a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 32 Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, a Hammoth‐dor a’i meysydd pentrefol: tair dinas. 33 Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

34 Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a’i meysydd pentrefol, a Carta a’i meysydd pentrefol, 35 Dimna a’i meysydd pentrefol, Nahalal a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 36 Ac o lwyth Reuben, Beser a’i meysydd pentrefol, a Jahasa a’i meysydd pentrefol, 37 Cedemoth a’i meysydd pentrefol, Meffaath a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 38 Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, a Mahanaim a’i meysydd pentrefol, 39 Hesbon a’i meysydd pentrefol, Jaser a’i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl. 40 Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas. 41 Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meysydd pentrefol. 42 Y dinasoedd hyn oedd bob un â’u meysydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

43 A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi. 44 Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt. 45 Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

Actau 1

Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. 10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen; 11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. 12 Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. 13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros. 14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef.

15 Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,) 16 Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu: 17 Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon. 18 A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. 19 A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed. 20 Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef. 21 Am hynny y mae’n rhaid, o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, 22 Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef. 23 A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias. 24 A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, 25 I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon, a’r apostoliaeth, o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i’w le ei hun. 26 A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg.

Jeremeia 10

10 Gwrandewch y gair a ddywed yr Arglwydd wrthych chwi, tŷ Israel: Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy. Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell. Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo. Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt. Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, Arglwydd: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid. Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi. Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff. Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll. 10 Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw, efe yw y Duw byw, a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef. 11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd. 12 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr. 13 Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau. 14 Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt. 15 Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt. 16 Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. Arglwydd y lluoedd yw ei enw. 17 Casgl o’r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa. 18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

19 Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf. 20 Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni. 21 Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr Arglwydd: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir. 22 Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.

23 Gwn, Arglwydd, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad. 24 Cosba fi, Arglwydd, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim. 25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.

Mathew 24

24 A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.

Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. A dechreuad gofidiau yw hyn oll. Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. 15 Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 18 A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19 A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22 Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. 24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 25 Wele, rhagddywedais i chwi. 26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 27 Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 28 Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.

29 Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr. 31 Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. 32 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau. 34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll. 35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

36 Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig. 37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, 39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir.

42 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. 43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn. 45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd? 46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef. 48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; 49 A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon; 50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; 51 Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.