M’Cheyne Bible Reading Plan
18 A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt. 2 A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto. 3 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi? 4 Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn. 5 A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd. 6 A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw. 7 Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.
8 A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo. 9 A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo.
10 A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.
11 A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff. 12 A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du’r gogledd, ac yn myned i fyny trwy’r mynydd tua’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen. 13 Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua’r deau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar, i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth‐horon isaf. 14 A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua’r deau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin. 15 A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa. 16 Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel. 17 Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En‐semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben: 18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd, ac yn disgyn i Araba. 19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua’r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua’r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua’r deau. Dyma derfyn y deau. 20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd. 21 A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis, 22 A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel, 23 Ac Afim, a Phara, ac Offra, 24 A Cheffar‐haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd: 25 Gibeon, a Rama, a Beeroth, 26 A Mispe, a Cheffira, a Mosa, 27 A Recem, ac Irpeel, a Tharala, 28 A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.
19 A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda. 2 Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer‐seba, a Seba, a Molada, 3 A Hasar‐sual, a Bala, ac Asem, 4 Ac Eltolad, a Bethul, a Horma, 5 A Siclag, a Beth‐marcaboth, a Hasar‐susa, 6 A Beth‐lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd: 7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd: 8 A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath‐beer, Ramath o’r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd. 9 O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10 A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid. 11 A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam; 12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia; 13 Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea. 14 A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel. 15 Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 16 Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.
17 Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd. 18 A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem. 19 A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath. 20 A Rabbith, a Cision, ac Abes, 21 A Remeth, ac En‐gannim, ac Enhada, a Beth‐passes. 22 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth‐semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
24 A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd. 25 A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff, 26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath: 27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua’r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul; 28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr. 29 A’r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosa; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib. 30 Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd. 31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.
32 Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd. 33 A’u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen. 34 A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul. 35 A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth, 36 Ac Adama, a Rama, a Hasor, 37 A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor, 38 Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
40 Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. 41 A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir‐Semes, 42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla, 43 Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron, 44 Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath, 45 A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon, 46 A Meiarcon, a Raccon, gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo. 47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad. 48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.
49 Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg: 50 Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi. 51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu’r wlad.
149 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. 2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. 3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. 4 Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. 5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. 6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; 7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; 8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; 9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.
150 Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth. 2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd. 3 Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn. 4 Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ. 5 Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar. 6 Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
9 O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl! 2 O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid. 3 A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr Arglwydd. 4 Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus. 5 Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a’r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd. 6 Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd. 7 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl? 8 Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â’i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9 Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon? 10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith. 11 A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau, ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.
12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd? 13 A dywedodd yr Arglwydd, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi; 14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt: 15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl. 16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.
17 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod, 18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr. 19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan. 20 Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd. 21 Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd. 22 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.
23 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; 24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.
25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig; 26 A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.
23 Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, 2 Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. 3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt. 4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. 5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; 6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, 7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. 8 Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. 9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10 Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. 11 A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. 12 A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13 Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn. 14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy. 15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain. 16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18 A phwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled. 19 Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hyn oll sydd arni. 21 A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22 A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni. 23 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. 24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel. 25 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb. 26 Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd. 29 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn; 30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi. 31 Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi. 32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. 33 O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?
34 Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref. 35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor. 36 Yn wir meddaf i chwi, Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. 37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39 Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.