M’Cheyne Bible Reading Plan
20 Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i. 21 Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. 22 Yr Arglwydd a’th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha. 23 Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn. 24 Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinistrier. 25 Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear. 26 A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo. 27 Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o’r rhai ni ellir dy iacháu. 28 Yr Arglwydd a’th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. 29 Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a’th waredo. 30 Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gydorwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth. 31 Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd. 32 Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu ar dy law. 33 Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser: 34 A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych. 35 Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun. 36 Yr Arglwydd a’th ddwg di, a’th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen. 37 A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt. 38 Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a’i hysa. 39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwyty. 40 Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni’th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla. 41 Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed. 42 Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust. 43 Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel. 44 Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon. 45 A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 46 A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth. 47 Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim: 48 Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi. 49 Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith; 50 Cenedl wyneb‐galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i’r llanc. 51 A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinistrier: yr hon ni ad i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di. 52 A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 53 Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat. 54 Y gŵr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe: 55 Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth. 56 Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch, 57 Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorff, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth. 58 Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW; 59 Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus. 60 Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt. 61 Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni’th ddinistrier. 62 Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw. 63 A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhau; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinistrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu. 64 A’r Arglwydd a’th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen. 65 Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl. 66 A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes. 67 Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych. 68 A’r Arglwydd a’th ddychwel di i’r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a’ch pryno.
25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. 26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. 27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. 28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. 29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. 30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. 31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda. 32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.HE
33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. 34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. 35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. 36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra. 37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. 38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. 39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. 40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.FAU
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.SAIN
55 O Deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. 2 Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster. 3 Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd. 4 Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd. 5 Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.
6 Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos. 7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.
8 Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd. 9 Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi. 10 Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr: 11 Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid. 12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo. 13 Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r Arglwydd yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.
3 Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea, 2 A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. 3 Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef. 4 A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5 Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen: 6 A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
7 A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch. 9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o’r meini hyn, gyfodi plant i Abraham. 10 Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. 12 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
13 Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo. 14 Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi? 15 Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gad yr awr hon; canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo. 16 A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef. 17 Ac wele lef o’r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.