M’Cheyne Bible Reading Plan
24 Pan gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. 2 Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: 3 Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: 4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.
5 Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
6 Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7 Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.
8 Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy. 9 Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aifft.
10 Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef. 11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti. 12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â’i wystl gyda thi. 13 Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot. 16 Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17 Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw. 18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. 20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; 2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. 3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. 4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. 5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? 6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? 7 Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: 8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.
115 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. 2 Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? 3 Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. 4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. 5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: 6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: 7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. 8 Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 9 O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. 13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion. 14 Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. 15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear. 16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. 17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. 18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
51 Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr Arglwydd: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt. 2 Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch esgorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef. 3 Oherwydd yr Arglwydd a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr Arglwydd: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.
4 Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd. 5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich. 6 Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.
7 Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad. 8 Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
9 Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig? 10 Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd? 11 Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. 12 Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn? 13 Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd? 14 Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef. 15 Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw Arglwydd y lluoedd. 16 Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.
17 Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef. 18 Nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd. 19 Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf? 20 Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd, a cherydd dy Dduw.
21 Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid trwy win. 22 Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr Arglwydd, a’th Dduw di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy: 23 Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.
21 Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio; a’r môr nid oedd mwyach. 2 A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr. 3 Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt. 4 Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio. 5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon. 6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. 7 Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab. 8 Ond i’r rhai ofnog, a’r di-gred, a’r ffiaidd, a’r llofruddion, a’r puteinwyr, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r eilun-addolwyr, a’r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw’r ail farwolaeth. 9 A daeth ataf un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti’r briodasferch, gwraig yr Oen. 10 Ac efe a’m dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi’r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw, 11 A gogoniant Duw ganddi: a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial; 12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel. 13 O du’r dwyrain, tri phorth; o du’r gogledd, tri phorth; o du’r deau, tri phorth; o du’r gorllewin, tri phorth. 14 Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen. 15 A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro’r ddinas, a’i phyrth hi, a’i mur. 16 A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a’i hyd sydd gymaint â’i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A’i hyd, a’i lled, a’i huchder, sydd yn ogymaint. 17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo’r angel. 18 Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis: a’r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw. 19 A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus; 20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus. 21 A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o’r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw. 22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, yw ei theml hi. 23 A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen. 24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi. 25 A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno. 26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi. 27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.