M’Cheyne Bible Reading Plan
9 Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd; 2 Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac? 3 Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt. 4 Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu’r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di. 5 Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. 6 Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.
7 Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd. 8 Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwyddwrthych i’ch difetha. 9 Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais. 10 A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa. 11 A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod. 12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd. 13 A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 14 Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy. 15 A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo. 16 Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi. 17 A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylo, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid. 18 A syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef. 19 (Canys ofnais rhag y soriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd. 20 Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno. 21 Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd. 22 O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau’r blys, yr oeddech yn digio’r Arglwydd. 23 A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef. 24 Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi. 25 A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi. 26 Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref. 27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod: 28 Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch. 29 Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.
Salm neu Gân ar y dydd Saboth.
92 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf: 2 A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau; 3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol. 4 Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf. 5 Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau. 6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn. 7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd. 8 Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd. 9 Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd. 10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir. 11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn. 12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. 13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw. 14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: 15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. 2 Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. 3 Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. 4 Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. 5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.
37 A Phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr Arglwydd. 2 Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. 3 A hwy a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. 4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. 5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6 A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. 7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis. 9 Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd, 10 Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria. 11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di? 12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar? 13 Mae brenin Hamath, a brenin Arffad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?
14 A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau, ac a’i darllenodd; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a’i lledodd gerbron yr Arglwydd. 15 A Heseceia a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, 16 Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt Dduw, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. 17 Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando; agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. 18 Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd, 19 A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. 20 Yr awr hon gan hynny, O Arglwydd ein Duw, achub ni o’i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, tydi yn unig.
21 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria: 22 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl. 23 Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel. 24 Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gwr uchaf, ac i goed ei ddoldir. 25 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig. 26 Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a’i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol. 27 Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. 28 Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm, a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn. 29 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. 30 A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 31 A’r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. 32 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn. 33 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o’i blaen â tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn. 34 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr Arglwydd. 35 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
36 Yna yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
37 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.
38 A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
7 Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren. 2 Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr, 3 Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau. 4 Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel. 5 O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 6 O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 7 O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 8 O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. 9 Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo; 10 Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen. 11 A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a’r henuriaid, a’r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 12 Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a’r gogoniant, a’r doethineb, a’r diolch, a’r anrhydedd, a’r gallu, a’r nerth, a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd. Amen. 13 Ac un o’r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant? 14 Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen. 15 Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt. 16 Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres. 17 Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a’u bugeilia hwynt, ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.