M’Cheyne Bible Reading Plan
8 Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw. 2 A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. 3 Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn. 4 Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. 5 Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. 6 A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef. 7 Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd; 8 Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl; 9 Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres. 10 Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti. 11 Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw: 12 Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; 13 A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt: 14 Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; 15 Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr; 16 Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,) 17 A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn. 18 Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn. 19 Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir. 20 Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.
91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. 2 Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. 3 Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon. 4 A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti. 5 Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd: 6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd. 7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti. 8 Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol. 9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
36 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a’u goresgynnodd hwynt. 2 A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr. 3 Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.
4 A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo? 5 Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn? 6 Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno. 7 Ond os dywedi wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a’i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch? 8 Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt. 9 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion? 10 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinistrio? yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.
11 Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.
12 Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi? 13 A safodd Rabsace, a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddywedodd, Gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Asyria: 14 Fel hyn y dywed y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi. 15 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a’ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. 16 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun; 17 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd. 18 Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? 19 Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i? 20 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw? 21 Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.
22 Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, â’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
6 Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl. 2 Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. 3 A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. 4 Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr. 5 A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law. 6 Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a’r olew a’r gwin, na wna niwed iddynt. 7 A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. 8 Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear. 9 A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau’r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt. 10 A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? 11 A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau. 12 Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed; 13 A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr. 14 A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd. 15 A brenhinoedd y ddaear, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen-capteiniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd; 16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: 17 Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.