Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 4

Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi. Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi. Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal‐peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal‐peor, yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di. Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddiw oll. Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu. Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon. Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno? A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi? Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion: 10 Sef y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion. 11 A nesasoch, a safasoch dan y mynydd a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew. 12 A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais. 13 Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.

14 A’r Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu. 15 Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb, o ganol y tân,) 16 Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw, 17 Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr, 18 Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear; 19 Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd. 20 Ond yr Arglwydd a’ch cymerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn, o’r Aifft, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn. 21 A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth. 22 Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno. 23 Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 24 Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.

25 Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef; 26 Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir. 27 A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi atynt: 28 Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt ac nid aroglant. 29 Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 30 Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef: 31 (Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt. 32 Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef: 33 A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw? 34 A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid? 35 Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe. 36 O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef. 37 Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aifft: 38 I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw. 39 Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall. 40 Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.

41 Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul; 42 I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw: 43 Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.

44 A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel; 45 Dyma ’r tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aifft: 46 Tu yma i’r Iorddonen, yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aifft: 47 Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul; 48 O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw Hermon; 49 A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth‐Pisga.

Salmau 86-87

Gweddi Dafydd.

86 Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf. Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd. Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat. Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil. Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi. Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di. Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw. 10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw. 11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. 12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. 13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. 14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. 15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. 16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. 17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.

Salm neu Gân meibion Cora.

87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Eseia 32

32 Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn. A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig. Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant. Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur. Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw. Canys coegwr a draetha goegni, a’i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr Arglwydd, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu. Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn. Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe.

Cyfodwch, wragedd di‐waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal. 10 Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull. 11 Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau. 12 Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. 13 Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd. 14 Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau; 15 Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. 16 Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir. 17 A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth. 18 A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. 19 Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel. 20 Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno.

Datguddiad 2

At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf. Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di. Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.

Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. 11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

12 Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd; 13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. 14 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. 15 Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu. 16 Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. 17 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

18 Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres coeth; 19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd di, a’th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf. 20 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod. 21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi. 22 Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd. 23 A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd. 24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall. 25 Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf. 26 A’r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd: 27 Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad. 28 Ac mi a roddaf iddo’r seren fore. 29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.