Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 3

Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon. Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill: Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan. Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn. A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant. Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain. A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon; (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;) 10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan. 11 Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr. 12 A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid. 13 A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri. 14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth‐Jair, hyd y dydd hwn. 15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead. 16 Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon: 17 Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth‐Pisga, tua’r dwyrain.

18 Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch. 19 Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi. 20 Hyd pan wnelo’r Arglwydd i’ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.

21 Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenin hyn: felly y gwna’r Arglwydd i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt. 22 Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi. 23 Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd, 24 O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di? 25 Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus. 26 Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn. 27 Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin, a’r gogledd, a’r deau a’r dwyrain, ac edrych arni â’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon. 28 Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di. 29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.

Salmau 85

I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.

85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

Eseia 31

31 Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd. Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd. Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr Arglwydd ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef. Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.

Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho. Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a’i difa ef: ac efe a ffy rhag y cleddyf, a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth. Ac efe a â i’w graig rhag ofn; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr Arglwydd, yr hwn y mae ei dân yn Seion, a’i ffwrn yn Jerwsalem.

Datguddiad 1

Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan: Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd. Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae’r amser yn agos.

Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog. Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist. 10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn, 11 Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea. 12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur; 13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur. 14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân; 15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. 17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf: 18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth. 19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn; 20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.