M’Cheyne Bible Reading Plan
1 Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab. 2 (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐Barnea.) 3 A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt; 4 Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei; 5 O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon, gan ddywedyd. 6 Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn: 7 Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates. 8 Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hôl hwynt.
9 A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi: 10 Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd. 11 ( Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a’ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!) 12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi? 13 Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi. 14 Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist. 15 Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi. 16 A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd, ac a’r dieithr sydd gydag ef. 17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a’i gwrandawaf. 18 Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.
19 A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades‐Barnea. 20 A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni. 21 Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.
22 A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt. 23 A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth. 24 A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef. 25 Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni. 26 Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw. 27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch, Am gasáu o’r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha. 28 I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a’n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno. 29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy. 30 Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid; 31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma. 32 Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw, 33 Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl. 34 A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd, 35 Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi; 36 Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a’i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd. 37 Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi, gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno. 38 Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel. 39 Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchenogant hi. 40 Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch. 41 Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd. 42 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion 43 Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i’r mynydd. 44 A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma. 45 A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi. 46 Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.
81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob. 2 Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl. 3 Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl. 4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob. 5 Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn. 6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau. 7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. 8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf; 9 Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr. 10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
Salm Asaff.
82 Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe. 2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela. 3 Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus. 4 Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol. 5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle. 6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll. 7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch. 8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
29 Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth. 2 Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel. 3 A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn, ac a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn. 4 A thi a ostyngir; o’r ddaear y lleferi, ac o’r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o’r ddaear fel llais swynwr, a’th ymadrodd a hustyng o’r llwch. 5 A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa’r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio; ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg. 6 Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaeargryn, a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymestl, a fflam dân ysol.
7 Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a’i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni. 8 Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a’i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.
9 Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn. 10 Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a’ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe. 11 A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef. 12 Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr.
13 Am hynny y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â’u genau, ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion; 14 Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod: canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. 15 Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd, ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, Pwy a’n gwêl ni? a phwy a’n hedwyn? 16 Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni’m gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd, Nid yw ddeallus? 17 Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a’r doldir a gyfrifir yn goed?
18 A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch. 19 A’r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd; a’r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel. 20 Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus, a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith; 21 Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i’r cyfiawn ŵyro am beth coeg. 22 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. 23 Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo, o’i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant Dduw Israel. 24 A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg.
1 Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd. 2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. 3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd. 4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd. 5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid; 6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei. 7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd. 8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i’r gwirionedd. 9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom. 10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys. 11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw. 12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir. 13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti: 14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb. 15 Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.