Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 36

36 Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau‐cenedl meibion Israel; Ac a ddywedasant, Yr Arglwydd a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched. Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni. A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni. A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn. Dyma y gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd. Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun. A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun. Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun. 10 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salffaad. 11 Canys Mala, Tirsa, a Hogla, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd. 12 I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad. 13 Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.

Salmau 80

I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.

80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

Eseia 28

28 Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win. Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw. Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim. Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a’i llwnc hi, a hi eto yn ei law.

Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl; Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel i’r porth.

Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân.

I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau. 10 Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw. 11 Canys â bloesgni gwefusau, ac â thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth y bobl hyn. 12 Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i’r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando. 13 Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.

14 Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem. 15 Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.

16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo. 17 A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches.

18 A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi. 19 O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir. 20 Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo. 21 Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred. 22 Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir.

23 Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd. 24 Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir? 25 Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a’r haidd nodedig, a’r rhyg yn ei gyfle? 26 Canys ei Dduw a’i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a’i dysg ef. 27 Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen. 28 Yd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mâl ef â’i wŷr meirch. 29 Hyn hefyd a ddaw oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.

2 Ioan

Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd; Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd. Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad. Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd. A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo. Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist. Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo. 10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho: 11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 12 Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. 13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.