Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 33

33 Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron. A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan. A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll. (A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.) A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth. A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch. A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol. A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara. A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno. 10 A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch. 11 A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin. 12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca. 13 A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus. 14 A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed. 15 A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai. 16 A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa. 17 A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth. 18 A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma. 19 A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares. 20 A chychwynasant o Rimmon‐Pares, a gwersyllasant yn Libna. 21 A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa. 22 A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha. 23 A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer. 24 A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. 25 A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth. 26 A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath. 27 A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara. 28 A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca. 29 A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona. 30 A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth. 31 A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan. 32 A chychwynasant o Bene‐Jaacan, a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad. 33 A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha. 34 A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. 35 A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐Gaber. 36 A chychwynasant o Esion‐Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades. 37 A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom. 38 Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis. 39 Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. 40 A’r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel. 41 A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona. 42 A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon, 43 A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth. 44 A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije‐Abarim, ar derfyn Moab. 45 A chychwynasant o Ije‐Abarim, a gwersyllasant yn Dibon‐Gad. 46 A chychwynasant o Dibon‐Gad, a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim. 47 A chychwynasant o Almon‐Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48 A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 49 A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.

50 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd, 51 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan; 52 Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt. 53 A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi. 54 Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch. 55 Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo. 56 A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

Salmau 78:1-37

Maschil i Asaff.

78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef: Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw. Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr. 10 Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef; 11 Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt. 12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan. 13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr. 14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân. 15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr. 16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd. 17 Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch. 18 A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. 19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? 20 Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl? 21 Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel; 22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef: 23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt; 30 Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau, 31 Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel. 32 Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef. 33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn. 34 Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore. 35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd. 36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod: 37 A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.

Eseia 25

25 O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd. Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth. Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda: Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

Ac Arglwydd y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw‐win; o basgedigion breision, a gloyw‐win puredig. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr Arglwydd a’i llefarodd.

A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr Arglwydd; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef. 10 Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen. 11 Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo. 12 Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.

1 Ioan 3

Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef. Anwylyd, yr awr hon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae. Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur. Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod. A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef. O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. 10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. 11 Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. 12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. 14 Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15 Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. 17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? 18 Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. 19 Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef. 20 Oblegid os ein calon a’n condemnia, mwy yw Duw na’n calon, ac efe a ŵyr bob peth. 21 Anwylyd, os ein calon ni’n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw. 22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. 23 A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni. 24 A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.