Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 30

30 A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd. Os adduneda gŵr adduned i’r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o’i enau. Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd, a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuenctid; A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif. Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau, a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri. Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi; A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant. Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a’r Arglwydd a faddau iddi. Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni. 10 Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw; 11 A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif. 12 Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a’u diddymodd hwynt; a’r Arglwydd a faddau iddi. 13 Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio’r enaid, ei gŵr a’i cadarnha, a’i gŵr a’i diddyma. 14 Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt. 15 Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi. 16 Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr a’i wraig, a rhwng tad a’i ferch, yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad.

Salmau 74

Maschil Asaff.

74 Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. 10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? 11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. 12 Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. 13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. 15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. 16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. 17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf. 18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw. 19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth. 20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster. 21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd. 23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Eseia 22

22 Baich glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti oll i nennau y tai? Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf, na’th feirw mewn rhyfel. Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. Am hynny y dywedais, Edrychwch oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd Dduw y lluoedd, yng nglyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i’r mynydd. Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch; Cir hefyd a ddinoethodd y darian. A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth.

Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ’r goedwig. A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, mai aml oeddynt; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf. 10 Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur. 11 A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm. 12 A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain: 13 Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw. 14 A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

15 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed, 16 Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig? 17 Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a’th wisg di. 18 Gan dreiglo y’th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr. 19 Yna y’th yrraf o’th sefyllfa, ac o’th sefyllfa y dinistria efe di.

20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia: 21 A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â’th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda. 22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro. 23 A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad. 24 Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad, hil ac epil; yr holl fân lestri; o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd. 25 Yn y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni; canys yr Arglwydd a’i dywedodd.

2 Pedr 3

Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi: Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr: Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir. 11 A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 12 Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant? 13 Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. 14 Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. 15 A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef; 16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain. 17 Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. 18 Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.