M’Cheyne Bible Reading Plan
28 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymor. 3 A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol. 4 Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr; 5 A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig. 6 Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 7 A’i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i’r Arglwydd, yn y cysegr. 8 Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd‐offrwm y bore, a’i ddiod‐offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
9 Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod‐offrwm. 10 Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod‐offrwm.
11 Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid,perffaith‐gwbl 12 A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd; 13 A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 14 A’u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn. 15 Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi’r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm.
16 Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd. 17 Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw. 18 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo. 19 Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith‐gwbl. 20 Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi; 21 Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o’r saith oen: 22 Ac un bwch yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch. 23 Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn. 24 Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd‐aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm. 25 Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.
26 Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau,cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch. 27 Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 28 A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd; 29 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 30 Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch. 31 Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith‐gwbl,) ynghyd â’u diod‐offrwm.
Salm i Solomon.
72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. 2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. 3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. 4 Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. 5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. 6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. 7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. 8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. 9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.
19 Baich yr Aifft. Wele yr Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol. 2 Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas. 3 Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr. 4 A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd. 5 A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech. 6 A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen. 7 Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy. 8 Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt. 9 Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a’r rhai a weant rwydwaith. 10 A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.
11 Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd? 12 Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft. 13 Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft. 14 Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa. 15 Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na’r gloren, y gangen na’r frwynen. 16 Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi. 17 A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft: pwy bynnag a’i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.
18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un. 19 Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi. 20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt. 21 A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r Arglwydd, ac a’i talant. 22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.
23 A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant. 24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir: 25 Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.
20 Yn y flwyddyn y daeth Tartan i Asdod, pan ddanfonodd Sargon brenin Asyria ef, ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod ac a’i henillodd hi; 2 Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Eseia mab Amos, gan ddywedyd, Dos, a datod y sachliain oddi am dy lwynau, a diosg dy esgidiau oddi am dy draed. Ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb esgidiau. 3 Dywedodd yr Arglwydd hefyd, Megis y rhodiodd fy ngwas Eseia yn noeth ac heb esgidiau dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft, ac yn erbyn Ethiopia; 4 Felly yr arwain brenin Asyria gaethiwed yr Aifft, a chaethglud Ethiopia, sef yn llanciau a hynafgwyr, yn noethion ac heb esgidiau, ac yn dinnoeth, yn warth i’r Aifft. 5 Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia eu gobaith hwynt, ac o achos yr Aifft eu gogoniant hwy. 6 A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoesom am gymorth i’n gwared rhag brenin Asyria: a pha fodd y dihangwn?
1 Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: 2 Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, 3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: 4 Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. 5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; 6 Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; 7 Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. 8 Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. 12 Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. 13 Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; 14 Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. 15 Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. 16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.