Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 27

27 Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;) Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a’r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd, Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo. Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad. A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad. Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch. Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr. 10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad. 11 Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dring i’r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel. 13 Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd. 14 Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.

15 A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 16 Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa, 17 Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa’r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.

18 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; 19 A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt. 20 A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno. 21 A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a’r holl gynulleidfa. 22 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa. 23 Ac efe a osododd ei ddwylo arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.

Salmau 70-71

I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

70 O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti. Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa. Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd. Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth. 10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant, 11 Gan ddywedyd, Duw a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd. 12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i’m cymorth. 13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi. 14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy. 15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt. 16 Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi. 17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. 18 Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo. 19 Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti? 20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear. 21 Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch. 22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel. 23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist. 24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Eseia 17-18

17 Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi. Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a’u dychryno. A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd. Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha. Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â’i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.

Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel. Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel: Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na’r llwyni, na’r delwau.

Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd‐dra. 10 Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr. 11 Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.

12 Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer. 13 Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt. 14 Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.

18 Gwae y tir sydd yn cysgodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia: Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflym, at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir. Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf. Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a’r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig â chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau. Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.

Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, i le enw Arglwydd y lluoedd, sef i fynydd Seion.

1 Pedr 5

Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd. A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. 10 A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. 11 Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo. 13 Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i. 14 Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.