Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 26

26 A bu, wedi’r pla, lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd, Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel. A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.

Reuben, cyntaf‐anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid: O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid. Dyma dylwyth y Reubeniaid: a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain. A meibion Phalu oedd Elïab. A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr Arglwydd. 10 Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd. 11 Ond meibion Cora ni buant feirw.

12 Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid: 13 O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid. 14 Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.

15 Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid: 16 O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid: 17 O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid. 18 Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.

19 Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan. 20 A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid. 21 A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid. 22 Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.

23 Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid: 24 O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid. 25 Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.

26 Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid. 27 Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.

28 Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd oedd; Manasse ac Effraim. 29 Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid. 30 Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid: 31 Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid: 32 Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.

33 A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 34 Dyma dylwyth Manasse: a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.

35 Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid. 36 A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid. 37 Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.

38 Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid: 39 O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid. 40 A meibion Bela oedd, Ard a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid. 41 Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.

42 Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd. 43 A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.

44 Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid. 45 O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid. 46 Ac enw merch Aser ydoedd Sara. 47 Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

48 Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid: 49 O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid. 50 Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant. 51 Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.

52 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 53 I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau. 54 I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion. 55 Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant 56 Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.

57 A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid. 58 Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram. 59 Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt. 60 A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. 61 A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd. 62 A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.

63 Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 64 Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai. 65 Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

Salmau 69

I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.

69 Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof. Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw. Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais. O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot. Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O Dduw Israel. Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb. Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam. Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi. 10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi. 11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt. 12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd. 13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. 14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. 15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf. 16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf. 17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi. 18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion. 19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di. 20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb. 21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr. 22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd. 23 Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser. 24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt. 25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll. 26 Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant. 27 Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di. 28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn. 29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O Dduw, a’m dyrchafo. 30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl. 31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol. 32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw. 33 Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion. 34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef. 35 Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi. 36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

Eseia 16

16 Anfonwch oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion. Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad. Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir. A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.

Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau. Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd. Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.

Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd. 10 Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio. 11 Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cir‐hares.

12 A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo. 13 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw. 14 Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym.

1 Pedr 4

Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod; Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd. Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad: Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd: Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw. Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd. Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach. 10 Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw. 11 Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15 Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16 Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17 Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? 18 Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19 Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.