M’Cheyne Bible Reading Plan
23 Adywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod. 2 A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor. 3 A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boethoffrwm; myfi a af oddi yma: ond odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel. 4 A chyfarfu Duw â Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor. 5 A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn. 6 Ac efe a ddychwelodd ato. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm. 7 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melltithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel. 8 Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd? 9 Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd. 10 Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau. 11 A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymerais; ac wele, gan fendithio ti a’u bendithiaist. 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd? 13 A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, atolwg, gyda myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.
14 Ac efe a’i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor. 15 Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boethoffrwm, a mi a af acw i gyfarfod â’r Arglwydd. 16 A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd Dychwel at Balac, a dywed fel hyn. 17 Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr Arglwydd? 18 Yna y cymerodd efe ei ddameg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi. 19 Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhau: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira? 20 Wele, cymerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ôl. 21 Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr Arglwydd ei Dduw sydd gydag ef, ac y mae utgorn-floedd brenin yn eu mysg hwynt. 22 Duw a’u dug hwynt allan o’r Aifft: megis nerth unicorn sydd iddo. 23 Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw! 24 Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwyta o’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.
25 A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regi na rega ef mwy: gan fendithio na fendithia ef chwaith. 26 Yna yr atebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd, hynny a wnaf fi?
27 A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, atolwg, mi a’th ddygaf i le arall: ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regi ef i mi oddi yno. 28 A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tua’r diffeithwch. 29 A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd. 30 A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
64 Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn. 2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: 3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon: 4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant. 5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt? 6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn. 7 Eithr Duw a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt. 8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia. 9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef. 10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. 2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. 3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. 4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. 5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. 6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. 7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. 8 A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. 9 Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
13 Baich Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos. 2 Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion. 3 Myfi a orchmynnais i’m rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i’m dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad. 4 Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel. 5 Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.
6 Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw. 7 Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd: 8 A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a’u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd. 9 Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni. 10 Canys sêr y nefoedd, a’u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lloer ni oleua â’i llewyrch. 11 A mi a ymwelaf â’r byd am ei ddrygioni, ac â’r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy. 12 Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir. 13 Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear a grŷn o’i lle, yn nigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef. 14 A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a’i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant. 15 Pob un a geffir ynddi a drywenir; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf. 16 Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir. 17 Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo. 18 Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygad nid eiriach y rhai bach.
19 A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr Duw ar Sodom a Gomorra. 20 Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a’r bugeiliaid ni chorlannant yno. 21 Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a’r ellyllon a lamant yno: 22 A’r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a’r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a’i hamser sydd yn agos i ddyfod, a’i dyddiau nid oedir.
1 Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid sydd ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Capadocia, Asia, a Bithynia, 2 Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer. 3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, 4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. 5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. 6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: 7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: 8 Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: 9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 10 Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi: 11 Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny. 12 I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych. 13 Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; 14 Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: 15 Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. 16 Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. 17 Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad: 18 Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; 19 Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd: 20 Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, 21 Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. 22 Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth: 23 Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. 24 Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd: 25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.