M’Cheyne Bible Reading Plan
21 A’r brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion. 2 Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt. 3 A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma.
4 A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd. 5 A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn. 6 A’r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
7 A daeth y bobl at Moses, adywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl. 8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw. 9 A gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.
10 A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth. 11 A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.
12 Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Sared. 13 Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Arnon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid. 14 Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon, 15 Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab. 16 Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
17 Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi. 18 Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattana: 19 Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: 20 Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tua’r diffeithwch.
21 Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd, 22 Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di. 23 Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel. 24 Ac Israel a’i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon. 25 A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd. 26 Canys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon. 27 Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon. 28 Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion Bamoth Arnon. 29 Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid. 30 Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.
31 A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid. 32 A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33 Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl. 34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon. 35 Am hynny y trawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.
I’r Pencerdd ar Susan‐eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
60 O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn. 2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu. 3 Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod. 4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela. 5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr. 8 Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i. 9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom? 10 Onid tydi, Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd? 11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn. 12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
61 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. 2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. 3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. 4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. 5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. 6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. 7 Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. 8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
5 Gwae Assur, gwialen fy llid, a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint. 6 At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd. 7 Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig. 8 Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd? 9 Onid fel Charcemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria? 10 Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod, a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria: 11 Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i’w delwau hithau? 12 A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef: 13 Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a’u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gŵr grymus: 14 A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai. 15 A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren. 16 Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân. 17 A bydd goleuni Israel yn dân, a’i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd: 18 Gogoniant ei goed hefyd, a’i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr. 19 A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.
20 A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd. 21 Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn. 22 Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder. 23 Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir.
24 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: â gwialen y’th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft. 25 Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaint yn eu dinistr hwy. 26 Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft. 27 A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad. 28 Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw. 29 Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes. 30 Bloeddia â’th lef, merch Galim: pâr ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd. 31 Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi. 32 Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem. 33 Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a’r rhai goruchel a ostyngir. 34 Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn; a Libanus trwy un cryf a gwymp.
4 O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? 2 Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. 3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau. 4 Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. 5 A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? 6 Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. 8 Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. 9 Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. 10 Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi. 11 Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr. 12 Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? 13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn: 14 Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu. 15 Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny. 16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw. 17 Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.