M’Cheyne Bible Reading Plan
20 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. 2 Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd! 4 Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? 5 A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? 6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 8 Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. 9 A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo. 10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? 11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. 13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
14 A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni: 15 Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a’n tadau. 16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di. 17 Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di. 18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod. 19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed. 20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref. 21 Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.
22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor. 23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd, 24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i’m gair, wrth ddwfr Meriba. 25 Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor; 26 A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno. 27 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa. 28 A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd. 29 A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd.
58 Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion? 2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear. 3 O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd. 4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau; 5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr. 6 Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc. 7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri. 8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul. 9 Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint. 10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol. 11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef.
59 Fy Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn. 2 Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd. 3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O Arglwydd. 4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych. 5 A thi, Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela. 6 Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 7 Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw? 8 Ond tydi, O Arglwydd, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd. 9 Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa. 10 Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion. 11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian. 12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant. 13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela. 14 A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 15 Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant. 16 Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf. 17 I ti, fy nerth, y canaf; canys Duw yw fy amddiffynfa, a Duw fy nhrugaredd.
8 Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel. 9 A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, 10 Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. 11 Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd; 12 Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
13 A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd. 14 Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd. 15 Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon. 16 Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. 17 Am hynny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
18 Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg. 19 Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd. 20 Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: 21 Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
10 Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a’r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder; 2 I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid. 3 A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich gogoniant? 4 Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
3 Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy. 2 Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd. 3 Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch, i’w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch. 4 Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno’r llywydd. 5 Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn! 6 A’r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern. 7 Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a’r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol: 8 Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol. 9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw. 10 O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai’r pethau hyn fod felly. 11 A ydyw ffynnon o’r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw? 12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw. 13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.