Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 19

19 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd. Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni. A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef. A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith. A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe. A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner. A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr. Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr. A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw. 10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.

11 A gyffyrddo â chorff marw dyn, aflan fydd saith niwrnod. 12 Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd. 13 Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno. 14 Dyma’r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod. 15 A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe. 16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod. 17 Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr; 18 A chymered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd: 19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr. 20 Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe. 21 A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i’r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr. 22 A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.

Salmau 56-57

I’r Pencerdd ar Jonath‐Elem‐Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.

56 Trugarha wrthyf, O Dduw: canys dyn a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma. Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O Dduw Goruchaf. Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti. Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg. Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid. A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd. Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di? Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi. 10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air. 11 Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 12 Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant. 13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw?

I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.

57 Trugarha wrthyf, O Dduw, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio. Galwaf ar Dduw Goruchaf; ar Dduw a gwblha â mi. Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd. Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym. Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear. Darparasant rwyd i’m traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela. Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf. Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 11 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.

Eseia 8:1-9:7

A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher‐shalal‐has‐bas. A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia. A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Galw ei enw ef, Maher‐shalal‐has‐bas. Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.

A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia: Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef. Ie, trwy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.

Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir. 10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni.

11 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd, 12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch. 13 Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi: 14 Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem. 15 A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir. 16 Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion. 17 A minnau a ddisgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano. 18 Wele fi a’r plant a roddes yr Arglwydd i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.

19 A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â’r swynyddion, ac â’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â’u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? 20 At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt. 21 A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u Duw, ac a edrychant i fyny. 22 A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.

Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd. Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt. Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail. Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian. Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân. Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o’r pryd hwn, a hyd byth. Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

Iago 2

Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. 10 Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. 11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. 12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. 13 Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn. 14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? 15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, 16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? 17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. 18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. 19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. 20 Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? 21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? 22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. 23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. 24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. 25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26 Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.