M’Cheyne Bible Reading Plan
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a chymer gan bob un ohonynt wialen, yn ôl tŷ eu tadau, sef gan bob un o’u penaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau, deuddeg gwialen: ysgrifenna enw pob un ar ei wialen. 3 Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi: canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau. 4 A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod, gerbron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi. 5 A gwialen y gŵr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.
6 A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a’u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth, yn ôl tŷ eu tadau, sef deuddeg gwialen; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt. 7 A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth. 8 A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddyg asai almonau. 9 A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.
10 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw. 11 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe. 12 A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu amdanom, darfu amdanom ni oll. 13 Bydd farw pob un gan nesáu a nesao i dabernacl yr Arglwydd. A wneir pen amdanom gan drengi?
18 Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth. 2 A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth. 3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd. 4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch. 5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel. 6 Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. 7 Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragwyddol. 9 Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion. 10 O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a’i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti. 11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono. 12 Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, a roddais i ti. 13 Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono. 14 Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti. 15 Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i’r anifail aflan. 16 A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny. 17 Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 18 Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti. 19 Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyda thi.
20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel. 21 Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw. 23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel. 24 Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm. 27 A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwinwryf. 28 Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad. 29 O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef. 30 A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf. 31 A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32 Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.
55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. 2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, 3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. 4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. 5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. 6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. 7 Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. 8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. 9 Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg. 16 Myfi a waeddaf ar Dduw; a’r Arglwydd a’m hachub i. 17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. 18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. 19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw. 20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. 21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. 22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. 23 Tithau, Dduw, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.
7 A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfod o Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia, brenin Israel, i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu. 2 A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddywedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt. 3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear‐jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr: 4 A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia: 5 Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd, 6 Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal. 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni saif, ac ni bydd hyn. 8 Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl. 9 Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
10 A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd, 11 Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd. 12 Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd. 13 A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? 14 Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. 15 Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da. 16 Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist, gan ei dau frenin.
17 Yr Arglwydd a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria. 18 A bydd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria: 19 A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll. 20 Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe. 21 A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner‐fuwch, a dwy ddafad: 22 Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir. 23 A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd. 24 Â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad. 25 Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.
1 Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch. 2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; 3 Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. 4 Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. 5 O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. 6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. 7 Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. 8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. 9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: 10 A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. 11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd. 12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef. 13 Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. 14 Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun. 15 Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth. 16 Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch. 17 Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. 18 O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. 19 O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: 20 Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. 21 Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. 22 A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. 23 Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych: 24 Canys efe a’i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. 25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred. 26 Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. 27 Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.