M’Cheyne Bible Reading Plan
16 Yna Cora, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymerasant wŷr: 2 A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, penaethiaid y gynulleidfa, pendefigion y gymanfa, gwŷr enwog. 3 Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr Arglwydd? 4 A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb. 5 Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato. 6 Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a’i holl gynulleidfa, thuserau; 7 A rhoddwch ynddynt dân, agosodwcharnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi. 8 A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi. 9 Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt? 10 Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd? 11 Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?
12 A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fyny. 13 Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffeithwch, oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni? 14 Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fyny ddim. 15 Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy: ni chymerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un ohonynt. 16 A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory. 17 A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl‐darth; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thuserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser. 18 A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl‐darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron. 19 Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa 20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 21 Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt ar unwaith. 22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa
23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd. 24 Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram. 25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef. 26 Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt. 27 Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll. 28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt. 29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i. 30 Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31 A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy. 32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth. 33 A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa. 34 A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau. 35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.
36 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 37 Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt: 38 Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel. 39 A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor: 40 Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
41 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd. 42 A bu, wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd. 43 Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.
44 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 45 Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
46 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla. 47 A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl. 48 Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a ataliwyd. 49 A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora. 50 A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a ataliwyd
I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.
52 Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol. 2 Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll. 3 Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela. 4 Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus. 5 Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela. 6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben. 7 Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni. 8 Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd. 9 Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.
I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.
53 Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. 2 Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw. 3 Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar Dduw. 5 Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd: gwaradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy. 6 O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?
54 Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid. 2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau. 3 Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen. Sela. 4 Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid. 5 Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd. 6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw. 7 Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
6 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. 2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. 3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. 4 A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd. 6 Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: 7 Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. 8 Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.
9 Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch. 10 Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu. 11 Yna y dywedais, Pa hyd, Arglwydd? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd, 12 Ac i’r Arglwydd bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad.
13 Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.
13 Parhaed brawdgarwch. 2 Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. 3 Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. 4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. 5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: 6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 7 Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. 8 Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. 9 Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. 10 Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. 11 Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. 12 Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth. 13 Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef. 14 Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. 15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. 16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. 17 Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny. 18 Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth. 19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. 20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21 A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 22 Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch. 23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi. 24 Anerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch. 25 Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.