M’Cheyne Bible Reading Plan
12 Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. 2 A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny. 3 A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. 4 A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. 5 Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. 6 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. 7 Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. 8 Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? 9 A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith. 10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus. 11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom. 12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam. 13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.
14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi. 15 A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn. 16 Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.
13 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt. 3 A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll. 4 A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Saccur. 5 Dros lwyth Simeon, Saffat mab Hori. 6 Dros lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne. 7 Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseff. 8 Dros lwyth Effraim, Osea mab Nun. 9 Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raffu. 10 Dros lwyth Sabulon, Gadiel mab Sodi. 11 O lwyth Joseff, dros lwyth Manasse, Gadi mab Susi. 12 Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali. 13 Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael. 14 Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Foffsi. 15 Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci. 16 Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.
17 A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua’r deau, a dringwch i’r mynydd. 18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt: 19 A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd; 20 A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.
21 A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath. 22 Ac a aethant i fyny i’r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.) 23 A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys. 24 A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno. 25 A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad ar ôl deugain niwrnod.
26 A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i’r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir. 27 A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef. 28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac. 29 Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd‐dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen. 30 A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi. 31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl; canys cryfach ydynt na nyni. 32 A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol: 33 Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
49 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd: 2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. 3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. 4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. 5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? 6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. 7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw: 8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) 9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir. 13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela. 14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref. 15 Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela. 16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef: 17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef. 18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun. 19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth. 20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
2 Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem. 2 A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato. 3 A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem. 4 Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 5 Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.
6 Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant. 7 A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau. 8 Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun: 9 A’r gwrêng sydd yn ymgrymu, a’r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.
10 Dos i’r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef. 11 Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. 12 Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir: 13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan, 14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig, 15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn, 16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol. 17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. 18 A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol. 19 A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. 20 Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod: 21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. 22 Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?
10 Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati. 2 Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith. 3 Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. 4 Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. 5 Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi: 6 Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. 7 Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. 8 Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; 9 Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. 10 Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. 11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: 12 Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; 13 O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. 14 Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. 15 Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, 16 Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; 17 A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. 18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod. 19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, 20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. 23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24 A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. 26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. 32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: 33 Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34 Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35 Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36 Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37 Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38 A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39 Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.