M’Cheyne Bible Reading Plan
9 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd, 2 Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor. 3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef. 4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg. 5 A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
6 Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw. 7 A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel? 8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno’r Arglwydd o’ch plegid.
9 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i’r Arglwydd. 11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef. 12 Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef. 13 A’r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw. 14 A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dieithr ac i’r un fydd â’i enedigaeth o’r wlad.
15 Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore. 16 Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a’r gwelediad tân y nos. 17 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel. 18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll. 19 A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent. 20 Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent. 21 Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl, yna y cychwynnent. 22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent. 23 Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.
I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.
45 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan. 2 Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd. 3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â’th ogoniant a’th harddwch. 4 Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy. 5 Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin. 6 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. 7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. 8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. 9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir. 10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.
7 Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint. 2 Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili. 3 Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid. 4 Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus. 5 Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd. 6 Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch! 7 Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau. 8 Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau; 9 A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
10 Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef. 11 Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi. 12 Boregodwn i’r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti. 13 Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.
7 Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef; 2 I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch; 3 Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. 4 Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith. 5 A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham: 6 Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. 7 Ac yn ddi‐ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. 8 Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw. 9 Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau. 10 Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef. 11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron? 12 Canys wedi newidio’r offeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd. 13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor. 14 Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth. 15 Ac y mae’n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi, 16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol. 17 Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 18 Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen, oherwydd ei lesgedd a’i afles. 19 Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw. 20 Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad: 21 (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:) 22 Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd. 23 A’r rhai hynny yn wir, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau: 24 Ond hwn, am ei fod ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo. 25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. 26 Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd, oedd weddus i ni; 27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun. 28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi’r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.