M’Cheyne Bible Reading Plan
7 Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl, a’i eneinio a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u heneinio a’u sancteiddio hwynt; 2 Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:) 3 A’u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt. 4 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 5 Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth. 6 A chymerodd Moses y menni, a’r ychen, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid. 7 Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt; 8 A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad. 9 Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
10 A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau, tuag at gysegru’r allor.
12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda. 13 A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 14 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 15 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 16 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 17 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.
18 Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar. 19 Efe a offrymodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 20 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 21 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 22 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 23 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.
24 Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Sabulon. 25 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 26 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 27 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 28 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 29 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elïab mab Helon.
30 Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur, tywysog meibion Reuben. 31 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 32 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 33 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 34 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 35 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisur mab Sedeur.
36 Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai, tywysog meibion Simeon. 37 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 38 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 39 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 40 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 41 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai.
42 Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel, tywysog meibion Gad. 43 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 44 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 45 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 46 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 47 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel.
48 Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Effraim. 49 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 50 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 51 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 52 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 53 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.
54 Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasse. 55 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 56 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 57 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 58 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 59 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.
60 Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin. 61 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 62 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 63 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 64 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 65 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.
66 Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai, tywysog meibion Dan. 67 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 68 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 69 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 70 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 71 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.
72 Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion Aser. 73 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 74 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 75 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 76 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 77 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Pagiel mab Ocran.
78 Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nafftali. 79 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 80 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 81 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 82 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 83 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahira mab Enan. 84 Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur: 85 Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thrigain pob ffiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ôl y sicl sanctaidd 86 Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl‐darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl. 87 Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a’u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr, yn offrwm dros bechod. 88 A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, trigain o hyrddod, trigain o fychod, trigain o hesbyrniaid. Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio. 89 Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau geriwb, ac efe a ddywedodd wrtho.
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. 2 Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? 3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. 5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. 6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. 7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, 8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. 9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. 2 Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. 4 Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. 5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
5 Deuthum i’m gardd, fy chwaer, a’m dyweddi: cesglais fy myrr gyda’m perarogl, bwyteais fy nil gyda’m mêl, yfais fy ngwin gyda’m llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
2 Myfi sydd yn cysgu, a’m calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau y nos. 3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt? 4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn. 5 Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo. 6 Agorais i’m hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni’m hatebodd. 7 Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant, a’m trawsant, a’m harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf. 8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly? 10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil. 11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân. 12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys. 13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol. 14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir. 15 Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd. 16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
5 Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: 2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. 3 Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. 4 Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. 5 Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. 6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; 8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd: 9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo; 10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. 11 Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau. 12 Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. 13 Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw. 14 Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.