M’Cheyne Bible Reading Plan
2 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 2 Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.
3 A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab. 4 A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant. 5 A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar. 6 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 7 Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon. 8 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant. 9 Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd, yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.
10 Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur. 11 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant. 12 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai. 13 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant. 14 Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel. 15 A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain. 16 Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.
17 A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu llumanau.
18 Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud. 19 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant. 20 Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur. 21 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant. 22 Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni. 23 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant. 24 Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.
25 Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai. 26 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant. 27 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran. 28 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant. 29 Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan. 30 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 31 Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.
32 Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. 33 Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 34 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr Arglwydd.
36 Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef. 2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas. 3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni. 4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni. 5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. 7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon. 11 Na ddeued troed balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi. 12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
12 Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt: 2 Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw: 3 Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri; 4 A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd: 5 Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol: 6 Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew. 7 Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a’i rhoes ef.
8 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl. 9 A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer. 10 Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd. 11 Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail. 12 Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd.
13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn. 14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.
1 Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr, 2 Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di: 3 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau, 5 Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; 6 Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. 7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd. 8 Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: 9 Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. 10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: 11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; 12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: 13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. 14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd; 16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? 17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi. 18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i; 19 Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd. 20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd. 21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. 22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi. 23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu; 24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr. 25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.
At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda’r gwas Onesimus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.