Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 27

27 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neilltuol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di. A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr. Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain. Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl. A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian. Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl. Ond os tlotach fydd efe na’th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia’r offeiriad ef.

Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd, sanctaidd fydd. 10 Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd. 11 Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad 12 A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd. 13 Ac os efe gan brynu a’i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.

14 A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif. 15 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.

16 Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian. 17 Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif. 18 Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di. 19 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef. 20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy. 21 A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i’r Arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad. 22 Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd; 23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r Arglwydd, y dydd hwnnw. 24 Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir. 25 A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.

26 Ond y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i’r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe. 27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.

28 Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd. 29 Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.

30 A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u piau: cysegredig i’r Arglwydd yw. 31 Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato. 32 A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i’r Arglwydd. 33 Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd. 34 Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.

Salmau 34

Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.

34 Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef. Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo. Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. 10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. 11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd. 12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? 13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. 14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi. 15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt. 16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear. 17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r Arglwydd a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd. 19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll. 20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. 21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. 22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

Pregethwr 10

10 Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd. Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy. Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â’i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl. Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â’th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion. Y mae drwg a welais dan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd: Gosodir ffolineb mewn graddau uchel, a’r cyfoethog a eistedd mewn lle isel. Mi a welais weision ar feirch, a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear. Y sawl a gloddio bwll, a syrth ynddo; a’r neb a wasgaro gae, sarff a’i brath. Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt; a’r neb a hollto goed, a gaiff niwed oddi wrthynt. 10 Os yr haearn a byla, oni hoga efe y min, rhaid iddo roddi mwy o nerth: eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo. 11 Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus. 12 Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a’i difetha ef ei hun. 13 Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd. 14 Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef? 15 Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i’r ddinas.

16 Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a’th dywysogion yn bwyta yn fore. 17 Gwyn dy fyd di y wlad sydd â’th frenin yn fab i bendefigion, a’th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.

18 Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni.

19 Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth.

20 Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.

Titus 2

Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus: Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr: Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb, Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd; 10 Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. 11 Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; 12 Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; 13 Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist; 14 Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. 15 Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.