Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 23

23 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn. Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.

Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor. O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd. A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw. Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur. Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, 10 Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad. 11 Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi. 12 Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 13 A’i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd: a’i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin. 14 Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.

15 A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant: 16 Hyd drannoeth wedi’r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd. 17 A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i’r Arglwydd. 18 Ac offrymwch gyda’r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i’r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd‐offrwm a’u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 19 Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd. 20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara’r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â’r ddau oen: cysegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant. 21 A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.

22 A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i’r tlawd a’r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 24 Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd. 25 Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27 Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. 28 Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw. 29 Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl. 30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl. 31 Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn. 32 Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.

33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd. 34 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd. 35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch. 36 Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith. 37 Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd: 38 Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd. 39 Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd. 40 A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod. 41 A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl. 42 Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod: 43 Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 44 A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.

Salmau 30

Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.

30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.

Pregethwr 6

Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion: Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef. Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch. Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.

Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb? Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef. Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?

Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. 10 Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.

11 Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well? 12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?

2 Timotheus 2

Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. 16 Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. 17 A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; 18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. 19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. 20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. 21 Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 22 Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. 23 Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. 24 Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, 25 Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; 26 A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.