Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 22

22 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr Arglwydd. Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd. Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had; Na’r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno: A’r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr. A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn. Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd. Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 10 Ac na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta’r peth cysegredig. 11 Ond pan bryno’r offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef. 12 A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig. 13 Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, megis yn ei hieuenctid; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono.

14 A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad. 15 Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymant i’r Arglwydd. 16 Ac na wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd, pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o ddieithr yn Israel, a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boethoffrwm; 19 Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwryw perffaith‐gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr. 20 Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch. 21 A phan offrymo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffaith‐gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno. 22 Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadennog, neu’r crachlyd, neu’r clafrllyd, nac offrymwch hwy i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd. 23 A’r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymeradwy. 24 Nac offrymwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth. 25 Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.

26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27 Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd. 28 Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd. 29 A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain. 30 Y dydd hwnnw y bwyteir ef; na weddillwch ohono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd. 31 Cedweh chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd. 32 Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd, 33 Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.

Salmau 28-29

Salm Dafydd.

28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

Salm Dafydd.

29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.

Pregethwr 5

Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg. Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu. Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.

Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw. 10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd. 11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid? 12 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu. 13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog. 14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef. 15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law. 16 A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt? 17 Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

18 Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef. 19 Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn. 20 Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef.

2 Timotheus 1

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd. Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd. Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll. Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl, yn ôl nerth Duw; Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau’r byd, 10 Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl: 11 I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd. 12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw. 13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom. 15 Ti a wyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes. 16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a’m llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i: 17 Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd. 18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.