M’Cheyne Bible Reading Plan
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl. 2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd, 3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi. 4 Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i’w aflanhau ei hun. 5 Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd. 6 Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd. 7 Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw. 8 A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9 Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân. 10 A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad: 11 Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam: 12 Ac nac aed allan o’r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd. 13 A chymered efe wraig yn ei morwyndod. 14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig. 15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.
16 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 17 Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu bara ei Dduw: 18 Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu; y gŵr dall, neu’r cloff, neu’r trwyndwn, neu’r neb y byddo dim gormod ynddo; 19 Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don; 20 Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gor, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin. 21 Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno; na nesaed i offrymu bara ei Dduw. 22 Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cysegredig, ac o’r pethau cysegredig, a gaiff efe ei fwyta. 23 Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 24 A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.
Salm Dafydd.
26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. 2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 5 Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. 6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: 7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. 9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: 10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. 11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. 12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.
Salm Dafydd.
27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? 2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. 3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. 4 Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. 7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.
4 Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro. 2 A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto. 3 Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.
4 A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. 5 Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun. 6 Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.
7 Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul. 8 Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
9 Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur. 10 Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i’w gyfodi. 11 Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe? 12 Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a’i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.
13 Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach: 14 Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu, a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd. 15 Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef. 16 Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.
6 Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef. 2 A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora. 3 Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb; 4 Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod, 5 Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw. 6 Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd. 7 Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. 8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. 9 Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. 10 Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau. 11 Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. 12 Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. 13 Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; 14 Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: 15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; 16 Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. 17 Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau: 18 Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu; 19 Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol. 20 O Timotheus, cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer‐sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly: 21 Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.
Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.