Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 20

20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig. A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a’i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o’i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd. Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef: Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.

A’r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd.

Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.

10 A’r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig. 11 A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 12 Am y gŵr a orweddo ynghyd â’i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 13 A’r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 14 Y gŵr a gymero wraig a’i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg. 15 A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail. 16 A’r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a’r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain. 17 A’r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd. 18 A’r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o’i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl. 19 Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd. 20 A’r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi‐blant. 21 A’r gŵr a gymero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di‐blant fyddant.

22 Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo’r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi. 23 Ac na rodiwch yn neddfau’r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o’ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt. 24 Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill. 25 Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a’r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a’r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i’w gyfrif yn aflan. 26 Byddwch chwithau sanctaidd i mi: oherwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a’ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.

27 Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Salmau 25

Salm Dafydd.

25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef. 11 Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw. 12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso. 13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear. 14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt. 15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd. 16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf. 17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau. 18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau. 19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant. 20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot. 21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthyt. 22 O Dduw, gwared Israel o’i holl gyfyngderau.

Pregethwr 3

Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? 10 Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo. 11 Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd. 12 Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd. 13 A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd Duw yw hynny. 14 Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef. 15 Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio. 16 Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd. 17 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno. 18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt. 19 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl. 20 Y mae y cwbl yn myned i’r un lle: pob un sydd o’r pridd, a phob un a dry i’r pridd eilwaith. 21 Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear? 22 Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?

1 Timotheus 5

Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr; Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb. Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon. Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw. Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd. Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw. A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd. Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di‐ffydd. Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr, 10 Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da. 11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant; 12 Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf. 13 A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys. 14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi. 15 Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan. 16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon. 17 Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth. 18 Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd: ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. 19 Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion. 20 Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. 21 Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth. 22 Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur. 23 Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a’th fynych wendid. 24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd. 25 Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen; a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.