M’Cheyne Bible Reading Plan
19 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3 Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi. 4 Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5 A phan aberthoch hedd‐aberth i’r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny. 6 Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd. 7 Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy. 8 A’r hwn a’i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.
9 A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf. 10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11 Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12 Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13 Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14 Na felltiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15 Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16 Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17 Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.
18 Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
19 Cedwch fy neddfau: na ad i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.
20 A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. 21 A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. 22 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.
23 A phan ddeloch i’r tir, a phlannu ohonoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi: na fwytaer ohono. 24 A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef. 25 A’r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
26 Na fwytewch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. 27 Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. 28 Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.
29 Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio’r tir, a llenwi’r wlad o ysgelerder.
30 Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr Arglwydd ydwyf fi.
31 Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
32 Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33 A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef. 34 Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35 Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. 36 Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft. 37 Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
Salm Dafydd.
24 Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. 2 Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. 3 Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? 4 Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. 5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. 6 Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. 7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. 9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
2 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a’th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd. 2 Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna? 3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd. 4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd: 5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth: 6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed: 7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: 8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion. 9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi. 10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur. 11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul. 12 A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes. 13 Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch. 14 Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll. 15 Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i’r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd. 16 Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth. 17 Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
18 Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i. 19 A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd. 20 Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul. 21 Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr. 22 Canys beth sydd i ddyn o’i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul? 23 Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a’i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
24 Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn. 25 Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a’i mwynhâi, o’m blaen i? 26 Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.
4 Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; 2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; 3 Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. 4 Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. 5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi. 6 Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. 7 Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. 8 Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. 9 Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. 10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. 11 Y pethau hyn gorchymyn a dysg. 12 Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. 13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. 14 Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. 15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. 16 Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.