Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 18

18 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw. Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. Ie, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.

Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw. Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. 10 Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw. 11 Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi. 12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi. 13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi. 14 Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi. 15 Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi. 16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw. 17 Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn. 18 Hefyd na chymer wraig ynghyd â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda’r llall, yn ei byw hi. 19 Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi. 20 Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o’i phlegid. 21 Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd. 22 Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny. 23 Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny. 24 Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi: 25 A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo’r wlad ei thrigolion. 26 Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r priodor, na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg: 27 (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;) 28 Fel na chwydo’r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen. 29 Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl. 30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

Salmau 22

I’r Pencerdd ar Aieleth‐hasahar, Salm Dafydd.

22 Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo. Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. 10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt. 11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr. 12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. 13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. 14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. 15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist. 16 Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed. 17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf. 18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren. 19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. 20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. 21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. 22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. 23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd. 29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun. 30 Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth. 31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.

Pregethwr 1

Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl. Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul? Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth. Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi. Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd. Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith. Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed. Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul. 10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni. 11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.

12 Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem; 13 Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo. 14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl. 15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol. 16 Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth. 17 Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd. 18 Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.

1 Timotheus 3

Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd; (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. 10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd. 11 Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. 12 Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. 13 Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd. 16 Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.