M’Cheyne Bible Reading Plan
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, 3 Pob un o dŷ Israel a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll, 4 Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl. 5 Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd. 6 A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 7 Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.
8 Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth, 9 Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymu i’r Arglwydd; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.
10 A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. 11 Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid. 12 Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed. 13 A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch. 14 Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwytao, a dorrir ymaith. 15 A phob dyn a’r a fwytao’r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd. 16 Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. 2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. 5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. 6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. 8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
21 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda! 2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela. 3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth. 4 Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd. 5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch. 6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd. 7 Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef. 8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. 9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt. 10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion. 11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau. 12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau. 13 Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.
31 Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. 2 Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau? 3 Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd. 4 Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn: 5 Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig. 6 Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon. 7 Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy. 8 Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr. 9 Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.
10 Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl. 11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. 12 Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. 13 Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar. 14 Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. 15 Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau. 16 Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. 17 Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. 18 Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. 19 Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail. 20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus. 21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. 22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. 23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. 24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. 25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. 26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. 27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. 28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: 29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. 30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod. 31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
2 Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; 2 Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd. 3 Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad; 4 Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a’u dyfod i wybodaeth y gwirionedd. 5 Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu; 6 Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, i’w dystiolaethu yn yr amseroedd priod. 7 I’r hyn y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) yn athro’r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd. 8 Am hynny yr wyf yn ewyllysio i’r gwŷr weddïo ym mhob man, gan ddyrchafu dwylo sanctaidd, heb na dicter na dadl. 9 Yr un modd hefyd, bod i’r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr; 10 Ond, (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb,) â gweithredoedd da. 11 Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd. 12 Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd. 13 Canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa. 14 Ac nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd. 15 Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.